Jackie Sayce (llun: PA)
Mae biwrocratiaeth y Gwasanaeth Iechyd wedi gorfodi dynes o Aberystwyth i gael triniaethau i’w dau ben-glin mewn dau ysbyty gwahanol, 50 milltir oddi wrth ei gilydd.

Mae Jackie Sayce, sy’n gweithio fel rheolwr yn y brifysgol yn Aberystwyth, wedi bod yn dioddef problemau parhaus gyda’i phen-glin chwith ers iddi gael damwain yn 3 oed. Dros y 15 mlynedd diwethaf mae hi wedi bod yn derbyn triniaethau o dan law meddyg ymgynghorol arbenigol yn Ysbyty Llandochau, Caerdydd.

Yn fwy diweddar, mae hi wedi dioddef problemau gyda’i phen-glin dde yn ogystal o ganlyniad i roi gormod o bwysau arni.

Ond fe fydd yn rhaid idd i gael triniaeth i’r pen-glin yma yn ysbyty’r Tywysog Philip, Llanelli, gan ei fod o fewn ffiniau ei bwrdd iechyd lleol, Hywel Dda.

‘Chwerthinillyd’

“Mae’r peth yn chwerthinllyd,” meddai.

“Fe fyddech chi’n meddwl y bydden nhw’n gweithio’n holistig – oherwydd mae’r problemau gyda fy mhen-glin dde yn deillio o gyflwr y pen-glin arall.

“Dylai’r un tîm fod yn gofalu am fy nhriniaeth. Dyw teithio’r pellter ychwanegol i Landochau erioed wedi bod yn broblem gen i, gan y gwn fy mod i’n cael y gofal gorau bosib.”

Mae hi eisoes wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford ac yn bwriadu codi’r mater gyda’r Prif Weinidog Carwyn Jones pan fydd yn ymweld â’r Brifysgol yn Aberystwyth.

‘Methu’n llwyr’

Dywed ei Haelod Cynulliad lleol, Elin Jones, fod y sefyllfa’n amlwg yn annerbyniol.

“Mae hyn yn enghraifft glir o sut y gall system sy’n seiliedig ar ffiniau byrddau iechyd fethu’n llwyr ag ymdrin â chleifion sydd angen triniaeth arbennig,” meddai. “Mae angen cael gwared ar y rhwystrau hyn o’r Gwasanaeth Iechyd.”

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol Bwrdd Iechyd Da, Kathryn Davies, fod yn flin ganddi glywed am ‘unrhyw brofiad negyddol gan glaf’.

Er yn gwrthod gwneud sylw am achos claf unigol, meddai:

“Rydym wedi cytuno i adolygu a diwygio’n polisi cyfeirio trawsffiniol er mwyn sicrhau ein bod yn lleihau unrhyw oedi mewn cyfeirio rhwng gwahanol ddarparwyr ac nad ydym yn anfanteisio ein cleifion.”