Gweld pa blaid fydd yn cynnig y polisïau gorau o ran diogelu a chynnal y Gymraeg yw nod dadl etholiadol rhwng y pleidiau gwleidyddol yn Aberystwyth heddiw.

Mae Cymdeithas yr Iaith yn cynnal cyfarfod hystings ar gyfer etholiad y Cynulliad ym mis Mai y flwyddyn nesaf a’i neges yw bod posib cyrraedd ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg gydag ychydig o “ddewrder” ac “uchelgais” gan Lywodraeth nesaf Cymru.

Ymysg cynrychiolwyr y pleidiau fydd yn cymryd rhan mae Nia Griffiths AS (Llafur), Suzy Davies AC (Ceidwadwyr), Elin Jones AC (Plaid Cymru) ac Aled Roberts AC (Democratiaid Rhyddfrydol).

Yn ôl y mudiad iaith, mae gwleidyddion o bob plaid eisoes wedi cefnogi ei thri phrif nod yn ei “dogfen weledigaeth” sef creu miliwn o siaradwyr Cymraeg, atal yr allfudiad (o Gymry Cymraeg sy’n gadael Cymru) a sicrhau llwybrau er mwyn defnyddio’r Gymraeg ym mhob rhan o fywyd.

Fe fydd yn cyflwyno’r ddogfen Milwn o Siaradwyr Cymraeg, sy’n cynnwys argymhellion fel ‘Bil Addysg Gymraeg i Bawb’ i sefydlu parhad o ddysgu Cymraeg i blant, sefydlu targedau a chyfrifoldebau er mwyn “sicrhau cyflenwad cynyddol o weithwyr Cymraeg” ac agor rhagor o neuaddau preswyl Cymraeg i fyfyrwyr.

Yn ôl y ddogfen, petai’r holl gynigion yn cael eu gweithredu, byddai’n realistig cyrraedd y nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg yn trigo yng Nghymru erbyn 2051.

Bydd y cyfarfod cael ei gynnal yn Neuadd Gymraeg Pantycelyn, lle sydd wedi cael cryn dipyn o sylw dros y blynyddoedd diwethaf, o ran cynnal cymuned ac iaith wrth i fyfyrwyr frwydro rhag ei chau.

Llywodraeth newydd yn “gyfle” 
“Rwy’n grediniol bod cael miliwn o siaradwyr Cymraeg o fewn cyrraedd. Ond mae angen Llywodraeth sy’n gweithredu, a hynny gyda phwrpas ac ar frys,” meddai Jamie Bevan, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith.

“Yn dilyn canlyniadau’r Cyfrifiad, sefydlodd y Llywodraeth weithgorau a gyhoeddodd argymhellion clodwiw. Mae rhai o’r argymhellion hynny yn dal i eistedd ar silffoedd y gweision sifil, ac yn prysur hel llwch.

“Mae cael Llywodraeth newydd yn gyfle i weithredu ar frys a chyflawni argymhellion adroddiadau ar yr economi ac addysg.”

Etholiad nesaf yn “dyngedfennol”

Ychwanegodd Jamie Bevan y byddai angen “penderfyniadau dewr o ran deddfwriaeth, adnoddau, defnyddio cefnogaeth y cyhoedd a chynllunio’r ffordd ymlaen”, os yw’r gwleidyddion “o ddifrif” am gyrraedd yr amcanion yn y ddogfen.

“Gobeithio y bydd y cynigion yn ein dogfen am greu Miliwn o Siaradwyr yn sbarduno trafodaeth gyhoeddus fywiog ynghyd â dangos pwysigrwydd etholiad 2016 fel un o bwys hanesyddol i’r Gymraeg a chymunedau Cymru yn gyffredinol.

“Mae’r etholiad nesaf felly yn mynd i fod yn un tyngedfennol i’r iaith: mae angen uchelgais arnon ni fel cenedl er mwyn sicrhau ffyniant y Gymraeg dros y degawdau i ddod.”

Rhagor am y ddogfen yma