Mae dau aelod o staff uned addysgol Cyngor Gwynedd wedi ymddangos ger bron llys ynadon yng Nghaernarfon heddiw wedi eu cyhuddo o droseddau yn ymwneud â chreulondeb at blant.

Rhyngddyn nhw mae Garry Vaughan Roberts, 43, a Sion Bedwyr Evans, 41, yn wynebu 50 cyhuddiad.

Fe glywodd yr ynadon bod y troseddau honedig wedi digwydd yng Nghanolfan Brynffynnon yn Y Felinheli rhwng Medi 2006 a Mawrth 2014.

Fe gafodd y ddau eu gwahardd o’r uned fis Mawrth y llynedd wedi i’r cyhuddiadau ddod i’r fei fis Chwefror.

Bu Adran Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Gwynedd a Heddlu’r Gogledd yn ymchwilio ar y cyd i’r uned addysgu.

Mae tri aelod arall o staff wedi eu gwahardd o’u gwaith yn dilyn ymchwiliadau pellach.

Mae’r ddau ddyn ar fechnïaeth ac mi fydd gofyn iddyn nhw ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar Hydref 12.