Mae Heddlu Gwent wedi dechrau defnyddio Camerâu Fideo sy’n cael eu gwisgo ar gyrff plismyn yn dilyn treialon yn ninas Casnewydd.

Bydd yr heddlu yn gosod y camerâu fideo hyn ar eu dillad a phan fydd ar ddyletswydd, bydd y swyddog yn recordio’r  hyn sy’n digwydd ar ei gamera.

Prif bwrpas y camerâu fideo yw “recordio tystiolaeth” a “chynnig tryloywder” ynghylch gweithredoedd swyddogion Heddlu Gwent mewn digwyddiadau.

Bydd Swyddogion yr Heddlu a Swyddogion Cymorth y Gymuned yng Ngwent i gyd yn cael camera’r un.

Yn ôl yr Heddlu, mae ymateb y cyhoedd wedi bod yn gadarnhaol iawn, gyda rhai o’r farn y bydd y lluniau yn arwain at gyfnodau hirach yn y carchar i ddrwgweithredwyr – oherwydd bydd y “Barnwyr yn gallu gweld yr hyn ddigwyddodd”.

“Gorau po fwyaf y dystiolaeth! Dylai fwy o gamerâu olygu llai o droseddu,” meddai un.

Yn ôl Heddlu Gwent, mae’r camerâu â nifer o fuddiannau gan gynnwys:

  • Lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Cynyddu hyder y cyhoedd
  • Rhoi tryloywder ynghylch gweithredoedd yr heddlu
  • Recordio tystiolaeth o ddigwyddiadau/troseddau
  • Annog pobl i bledio’n euog yn gynt gan gyflymu’r broses gyfiawnder
  • Lleihau nifer y cwynion yn erbyn swyddogion a staff
  • Gwella’r ffordd o hyfforddi a datblygu swyddogion a staff.