Gethin Jenkins - angen gwaith ar y sgrym
Fe fydd cefnogwyr Cymru’n gweiddi tros dîm rygbi Awstralia fory – fe fyddai buddugoliaeth i’r Wallabies yn erbyn Lloegr yn rhoi’r crysau cochion yn rownd wyth ola’ Cwpan y Byd.

Pebai Lloegr yn ennill, fe fyddai’n rhaid i Gymru guro Awstralia y penwythnos wedyn – dyna oblygiadau buddugoliaeth fain Cymru yn erbyn Fiji neithiwr.

Yn y diwedd, buddugoliaeth agos iawn oedd hi – o 23-13 – gyda Chymru’n methu â chipio pwynt bonws.

Yn ôl capten Cymru, Sam Warburton, dyma un o’r gêmau rhyngwladol caleta’ iddo eu chwarae erioed.

Dim rhagor o anafiadau

Dyw hi ddim yn ymddangos bod Cymru wedi cael rhagor o anafiadau – yr ail reng Bradley Davies oedd yr unig amheuaeth amlwg wedi’r gêm.

Ond mae yna bryderon am sgrym Cymru ar ôl iddyn nhw gael eu chwalu sawl tro ac fe ddywedodd y prop profiadol, Gethin Jenkins, y byddai’n rhaid iddyn nhw weithio’n galed ar hynny cyn gêm Awstralia.

“Dyna un o’r sgrymiau gorau i fi ei weld ers amser maith,” meddai Gethin Jenkins cyn dweud y gallai Cymru wella eu perfformiad eto.

  • Mae’r gyn-chwaraewraig ryngwladol, Non Evans, wedi mynnu bod angen i Gymru guro Awstralia beth bynnag, er mwyn cael gêmau haws yn y rowndiau nesa’.