Gareth Davies - chwaraewr gorau Cymru (Llun y Scarlets)
Cymru 23 Fiji 13

Cael a chael oedd hi yn y diwedd wrth i Gymru gymryd un cam arall at rownd wyth ola’ Cwpan y Byd.

Ond roedd yr ail hanner yn frwydr galed gyda Fiji’n edrych yn fwy peryglus am lawer o’r deugain munud wrth i Gymru gicio’n wael i’w dwyllo nhw.

Ac fe sgorion nhw un o geisiau gorau’r bencampwriaeth ar ôl tua deg munud o’r hanner wrth i Vereniki Goneva ddechrau a gorffen symudiad gwych.

Roedd hynny ar ôl i’r asgellwr Alex Cuthbert ddod o fewn dim i ryng-gipio cyn colli’r bêl a’i gweld hi’n gorffen tros y llinell ym mhen arall y cae.

Biggar yn ddiogel

Gyda’r sgôr yn sydyn yn 17-13, fe gadwodd cicio Biggar Gymru ar y blaen gyda dwy gic gosb gadarn.

Roedd yna ragor o fygwth gan Fiji wrth i Gymru ddiodde’ yn y sgrymiau ond, yn y deg munud ola’, fe ddechreuon nhw gadw’r bêl yn eu dwylo a dechrau rheoli unwaith eto.

Fe fu bron i’r wobr ddod gyda phum munud yn weddill wrth i Gareth Davies groesi, ond roedd llaw Fijiaidd o dan y bêl.

A y blaen ar yr hanner

Roedd yr ail hanner yn galetach na’r addewid ar yr hanner pan oedd Cymru ar y blaen o 17-6 gyda cheisiau agos-at-y-lein gan Gareth Davies a’r bachwr Scott Baldwin.

Ac, yn y diwedd, er na ddaeth pwynt bonws, roedd Cymru’n falch o ennill a.c o ddod trwy’r gêm, yn ôl pob golwg, heb anafiadau drwg.

Roedd angen y pwynt bonws i’w gwneud hi’n fwy anodd i Loegr.