Kaitlin Lewis
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth, wedi i ferch yn ei harddegau fynd ar goll fore Llun yr wythnos hon.

Mae Kaitlin Lewis, 15, wedi’i disgrifio fel merch 5 troedfedd 2 fodfedd o daldra, gyda gwallt bron hir a llygaid brown. Mae’n byw yn Clydach, Abertawe.

Gall unrhyw un sydd wedi’i gweld, neu’n gwybod lle mae hi, gysylltu gyda’r Heddlu ar y rhif 101.