Katherine Jenkins gyda'i gwr Andrew Levitas
Mae’r gantores opera enwog o Gastell-nedd, Katherine Jenkins,  wedi rhoi genedigaeth i ferch fach o’r enw Aaliyah Reign Levitas.

Fe gyhoeddodd y newyddion ar gyfryngau cymdeithasol gan gyflwyno ei merch a “ddaeth i’r byd yn pwyso bron i 7 pwys ac wedi’i hamgylchynu â chariad.”

“Rydym wedi gwirioni â hi ac yn ddiolchgar iawn am y gwyrth hapus ac iach hon,” meddai.

Mae wedi priodi â’r cynhyrchydd ffilmiau o Efrog Newydd, Andrew Levitas.