Meri Huws
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi rhoi ‘hysbysiad cydymffurfio’ i’r 26 sefydliad cyntaf sydd ar restr y safonau iaith yn nodi beth fydd disgwyl iddyn nhw ei wneud a’i ddarparu yn Gymraeg ac erbyn pryd.

Ymysg y 26 sefydliad mae pob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol yng Nghymru, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau’r tri pharc cenedlaethol.

Llywodraeth Cymru sydd wedi drafftio’r safonau hyn a chawson nhw eu pasio yn y Cynulliad ar 24 Mawrth eleni.

Mae disgwyl i’r sefydliadau hyn gydymffurfio â’r safonau cyntaf erbyn 30 Mawrth 2016 gan ddisodli cynlluniau iaith statudol y sefydliadau fel rhan o Ddeddf yr iaith Gymraeg 1993. Mae’r safonau hyn o dan Fesur y Gymraeg 2011 yn dod yn eu lle.

‘Sicrwydd’ o ddefnyddio’r Gymraeg

“Dyma’r tro cyntaf i mi ddefnyddio fy mhwerau dan adran 44 Mesur y Gymraeg drwy roi hysbysiad i’r cylch cyntaf o sefydliadau i gydymffurfio â safonau’r Gymraeg,” meddai Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg.

“Wrth i’r safonau newydd ddod i rym, bydd y ffordd mae sefydliadau’n trin ac yn defnyddio’r Gymraeg yn newid. Y nod yw y bydd gan bobl yng Nghymru, lle bynnag maen nhw’n byw, sicrwydd y gallan nhw ddefnyddio’r iaith gyda’r sefydliadau hyn.”

Bydd y comisiynydd yn cyflwyno’r safonau i fwy o sectorau a sefydliadau drwy’r un broses.

Ychwanegodd Meri Huws: “Gall tua 120 yn rhagor o sefydliadau ddisgwyl derbyn hysbysiadau cydymffurfio o fewn y misoedd nesaf, a byddaf yn parhau â’r gwaith gyda sectorau eraill sy’n cael eu henwi yn y Mesur.”

Deiseb Cymdeithas yr Iaith

 

Un o’r sectorau sydd heb eu henwi yn Mesur y Gymraeg yw’r sector preifat ac mae Cymdeithas yr Iaith wedi lansio deiseb yn galw ar y llywodraeth i gynnwys y sector hwn yn y safonau.

Mae’r mudiad hefyd wedi beirniadu’r comisiynydd a’r llywodraeth am beidio â chynnwys cwmnïau ffôn, bysiau, trenau ac ynni er bod Mesur y Gymraeg yn eu caniatáu i wneud hynny.

“Mae’n destun pryder mawr, pum mlynedd ers i’r ddeddfwriaeth iaith gael ei basio, nad yw’r Comisiynydd na’r Llywodraeth wedi defnyddio’r holl bwerau sydd gyda nhw,” meddai Manon Elin, llefarydd Grŵp Hawl i’r Gymraeg Cymdeithas yr Iaith.

“Mae cannoedd ar filoedd o bobl Cymru yn cael eu hamddifadu o wasanaethau Cymraeg sylfaenol bob dydd achos eu diffyg gweithredu.”

Bydd pob hysbysiad cydymffurfio yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Comisiynydd ar 5 Hydref 2015.