Jeremy Corbyn
Mae ethol Jeremy Corbyn fel arweinydd newydd Llafur wedi arwain at gynnydd yng nghefnogaeth y blaid yng Nghymru, yn ôl arolwg barn.

Fe ddangosodd pôl piniwn YouGov ITV Cymru a Phrifysgol Caerdydd bod y gefnogaeth i’r Blaid Lafur ar gyfer etholiadau’r Cynulliad yn  39%, sef cynnydd o 4% ers mis Mehefin.

Roedd y gefnogaeth i’r blaid hefyd wedi cynyddu pum pwynt i 42% ar gyfer Etholiad San Steffan.

Mae’r canfyddiadau yn awgrymu bod ethol Jeremy Corbyn fel arweinydd y blaid yn cael effaith gadarnhaol ar Lafur yng Nghymru.

‘Calonogol i Lafur’

Dywedodd yr Athro Roger Scully bod y canfyddiadau yn debygol o fod yn “galonogol” i Lafur.

“Mae manylion y pôl yn awgrymu y bydd Llafur yn gwneud yn dda ymysg y rheiny a bleidleisiodd dros Blaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn yr Etholiad Cyffredinol ym mis Mai: mae bron i chwarter o’r rheiny yn ein sampl ni a bleidleisiodd dros Blaid Cymru a thraean o bleidleiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol nawr yn dweud y bydden nhw’n pleidleisio dros Lafur mewn Etholiad Cyffredinol.

“Ar yr un pryd mae’n rhaid i ni gofio mai dim ond un pôl ydi hwn; a hefyd os oes yna ‘Corbyn bounce’ i Lafur, mae angen i’r blaid gynnal hynny nes Etholiad y Cynulliad y flwyddyn nesaf er mwyn cynhyrchu canlyniadau sylweddol.”

Etholiad San Steffan

  • Llafur 42% (+5)
  • Y Ceidwadwyr: 26% (-2)
  • UKIP: 16% (+1)
  • Plaid Cymru: 10% (-2)
  • Democratiaid Rhyddfrydol: 5% (+1)
  • Y Blaid Werdd: 2% (-1)

Etholiad y Cynulliad (etholaethau)

  • Llafur: 39% (+4)
  • Ceidwadwyr: 23% (dim newid)
  • Plaid Cymru: 18% (-2)
  • UKIP: 13% (-1)
  • Democratiaid Rhyddfrydol: 6% (+1)
  • Y Blaid Werdd: 2% (-1)

O ystyried y ffigurau ar y rhestr ranbarthol hefyd, fe fyddai hynny’n arwain at:

  • Llafur: 29 o seddi (27 sedd etholaeth + 2 sedd ar y rhestr)
  • Ceidwadwyr: 12 o seddi ( 6 sedd etholaeth + 6 sedd ar y rhestr)
  • Plaid Cymru: 10 o seddi (6 sedd etholaeth + 4 sedd ar y rhestr)
  • UKIP: 8 seats (8 o seddi ar y rhestr)
  • Democratiaid Rhyddfrydol: 1 sedd (1 sedd etholaeth)