Mae dyn a gafodd ei saethu ddeufis yn ôl yn Aberpennar wedi marw.

Roedd Mark Jones, 43 oed, wedi bod mewn cyflwr difrifol ers iddo gael ei saethu nos Sul 26 Gorffennaf, ac roedd yn Ysbyty Treforys pan fu farw ddoe.

Mae dau ddyn wedi bod yn y ddalfa ers iddyn nhw gael eu harestio yn fuan wedi’r digwyddiad.

Roedd Stephen Bennett, 51 oed o Bontypridd ac Edward Bennet, 46 oed o Aberpennar wedi cael eu cyhuddo o geisio llofruddio ac o fod ag arf tân yn eu meddiant.

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Ceri Hughes o Heddlu De Cymru y bydd y cyhuddiadau yn erbyn y ddau ddyn yn cael eu hadolygu yn sgil marwolaeth Mark Jones.

“Rydym yn cydymdeimlo â theulu Mark sy’n cael eu cefnogi gan swyddog teuluol ar yr adeg anodd yma,” meddai.

Ychwanegodd fod yr heddlu’n apelio unwaith eto am wybodaeth am y digwyddiad, ac yn gofyn i bobl eu ffonio ar 101 neu’n ddienw ar 0800 555 111 gan nodi cyfeirnod *271720.