Mae Heddlu De Cymru wedi arestio dyn 23 oed mewn cysylltiad ag ymosodiad rhyw difrifol yng nghanol y brifddinas yn ystod oriau mân dydd Iau.

Mae’r dyn yn y ddalfa yn Swyddfa’r Heddlu Bae Caerdydd.

Mewn nodyn i’r wasg a’r cyfryngau ddiwedd pnawn heddiw, mae Heddlu De Cymru yn diolch i’r cyhoedd am eu cymorth a’u gwybodaeth yn y mater hwn.