Rhaid sicrhau dyfodol y BBC fel darlledwr cyhoeddus sy’n cael ei ariannu’n deg. Byddai hynny hefyd yn helpu gwarchod darlledu trwy gyfrwng y Gymraeg – yn ôl un o enwadau crefyddol Cymru.

Mewn cyfarfod yng Ngregynog ger Y Drenewydd heddiw, fe glywodd Cyngor Undeb yr Annibynwyr y gallai unrhyw fygythiad i’r BBC beryglu dyfodol Radio Cymru – ac S4C, sy’n cael ei ariannu bron i gyd gan y BBC.

Mynegwyd cefnogaeth unfrydol i’r corff cydenwadol Cytûn sy’n pwyso am sicrhau dyfodol teg i’r BBC, yn ei ymateb i’r Papur Gwyrdd ymgynghorol i ddyfodol y Gorfforaeth.

Mae gan y trethdalwyr ychydig dros wythnos i ymateb i’r ymgynghoriad ar ddyfodol y BBC. Bydd y cyfnod ymgynghori’n dod i ben ddydd Llun, Hydref 5.