Mae Heddlu De Cymru wedi rhyddhau lluniau teledu cylch-cyfyng o ddyn y maen nhw’n awyddus i’w holi mewn cysylltiad ag ymosodiad rhywiol yng Nghaerdydd.
Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yng Ngherddi’r Orsedd yng nghanol y brifddinas ddydd Iau.
“R’yn ni’n apelio ar i unrhyw un sy’n nabod y dyn hwn, neu unrhyw un a allai fod wedi siarad ag e yn ystod nos Fercher, Medi 23 neu oriau mân dydd Iau, Medi 24, i gysylltu â ni,” meddai llefarydd ar ran Heddlu De Cymru.
“R’yn ni’n credu y gallai e fod â gwybodaeth a allai fod o fudd i’r ymchwiliad.”
Dylai unrhyw un sy’n adnabod y dyn, neu sydd wedi cael unrhyw gysylltiad ag e, ffonio Heddlu De Cymru ar y rhif 101.