Mae’r ymgeisydd Llafur a oedd yn bwriadu ymladd am un o seddi mwya’ diogel y blaid yn ne Cymru, wedi tynnu ei enw yn ôl, a hynny am “resymau personol”.

Roedd y cynghorydd lleol Rhys Lewis wedi’i ddewis i sefyll i fod yn Aelod Cynulliad tros Gwm Cynon, wedi i’r AC Christine Chapman gyhoeddi y byddai’n ymddeol o’r gwaith ym mis Mai y flwyddyn nesa’.

“Rwy’n parhau’n aelod ffyddlon o Blaid Lafur etholaeth Cwm Cynon,” meddai Rhys Lewis mewn datganiad, “ac fe fydda’ i’n sefyll yn gadarn y tu ôl i bwy bynng fydd yn cael ei ddewis gan y blaid yn ymgeisydd ar gyfer etholiadau’r Cynulliad.

“Gallwch fod yn siwr y bydda’ i’n ei gefnogi ac yn ei gynorthwyo ym mhob ffordd.”