Mae dyn wedi’i gyhuddo o dreisio mewn cysylltiad ag un o dri ymosodiad rhywiol ar ferched yng Nghaerdydd yr wythnos hon.

Mae disgwyl i Remus Hamza, 40, o Gaerdydd, ymddangos gerbron Llys Ynadon Caerdydd wedi’i gyhuddo o ymosod yn rhywiol ar ddynes 20 oed yng nghanol y ddinas ddydd Sul diwetha’.

Mae Heddlu De Cymru yn parhau i ymchwilio i ddau ymosodiad arall.