Fe gafodd beiciwr modur ei gludo i’r ysbyty mewn hofrennydd ddoe, wedi damwain ffordd ddifrifol ar briffordd yr A487 yn Sir Benfro.

Aeth y beic modur ben-ben â char ar y ffordd yn Felindre Farchog toc cyn 7 o’r gloch neithiwr.

Fe fu’r lôn ar gau am gyfnod, wrth i’r heddlu ymchwilio i achos y ddamwain.