Mae George North yn mynnu bod tîm Cymru yn barod am eu “prawf mawr cyntaf” yng Nghwpan Rygbi’r Byd wrth iddyn nhw baratoi i herio Lloegr yn Twickenham heno.

Er gwaethaf nifer o anafiadau sydd wedi taro carfan Cymru dros yr wythnosau diwethaf, mae’r asgellwr yn ffyddiog bod pawb yn y tîm â ffydd yn y rheiny sydd wedi camu mewn a llenwi’r bwlch.

Fe fydd enillwyr yr ornest heno yn Twickenham yn cymryd cam enfawr tuag at sicrhau eu lle yn rownd wyth olaf y gystadleuaeth, gyda’r sawl sy’n colli yn wynebu brwydr anodd i osgoi mynd adre’n gynnar. Ac mae’r frwydr seicolegol eisoes wedi poethi, gyda hyfforddwr Cymru Warren Gatland a’r canolwyr Scott Williams a Sam Burgess yng nghanol y miri geiriol.

‘Bod yn boen’

Fe fydd George North yn dechrau ei gêm gyntaf yn y gystadleuaeth heno, ar ôl gwylio o’r ystlys wrth i Gymru drechu Wrwgwai yn eu gornest agoriadol.

Ac mae’r asgellwr o Fôn yn edrych ymlaen at gael bod yn rhan o’i ail Gwpan y Byd, pedair blynedd ers iddo wneud ei farc fel llanc 19 oed yn y twrnament yn Seland Newydd.

“I fi, chwarae yng Nghwpan y Byd ydi’r fraint fwyaf. Unrhyw bryd dw i’n gwisgo crys Cymru dw i eisiau chwarae fy ngorau, felly fydd dim diffyg ymdrech,” meddai George North.

“Ond Cwpan y Byd ydi pryd ‘dach chi eisiau serennu, ac yn amlwg gan fod hwn mor agos at adra dyma fysa’r adeg berffaith i wneud hynny.

“Pan dw i’n edrych nôl [ar 2011] ro’n i mor ifanc a naïf i rygbi rhyngwladol ar y pryd. Dim ond ychydig gapiau oedd gen i, ac roedd angen dysgu’n gyflym beth i’w wneud a sut i baratoi.

“Rŵan dw i’n fwy proffesiynol ac yn dod i wybod beth sy’n well i mi o wythnos i wythnos ac mewn gêm ar ddydd Sadwrn. Dw i’n gweithio allan lle allai fod yn boen.”

Ffydd gadarn

Gyda gemau caled yn erbyn Fiji ac Awstralia i ddod, mae Cymru’n gwybod na allan nhw fforddio peidio â bod ar eu gorau yn erbyn Lloegr heno os ydyn nhw am unrhyw siawns o fuddugoliaeth.

Ac er gwaethaf anafiadau i Leigh Halfpenny, Rhys Webb, Eli Walker, Cory Allen a Jonathan Davies, mae North yn hyderus y bydd y bechgyn sydd yn llenwi’u hesgidiau yn gwneud llawn cystal.

“Da chi’n edrych ar ein grŵp ni, mae pawb wedi’i alw fo’n ‘group of death’. Yn amlwg mae’n anodd iawn, ac mae’n prawf mawr cyntaf ni’n dod dydd Sadwrn,” meddai’r asgellwr.

“Os ‘da chi’n edrych ar y garfan, yn amlwg ‘da ni wedi cael ambell anaf, ond mae gan Gats pob ffydd ym mhob un o’r hogiau mae o wedi’u dewis ar gyfer penwythnos yma.

“Does gen i ddim amheuaeth yr awn ni allan yna a gwneud job dros ein gilydd. Mae gennym ni gyfle i ddangos beth allwn ni wneud.”

Pwy sydd i mewn?

Tîm Cymru: Gethin Jenkins, Scott Baldwin, Tomas Francis, Alun Wyn Jones, Bradley Davies, Dan Lydiate, Sam Warburton, Taulupe Faletau; Gareth Davies, Dan Biggar, Hallam Amos, Scott Williams, Jamie Roberts, George North, Liam Williams

Eilyddion Cymru: Aaron Jarvis, Ken Owens, Samson Lee, Luke Charteris, Justin Tipuric, Lloyd Williams, Rhys Priestland, Alex Cuthbert

Tîm Lloegr: Joe Marler, Tom Youngs, Dan Cole; Geoff Parling, Courtney Lawes; Tom Wood, Chris Robshaw (capt), Billy Vunipola; Ben Youngs, Owen Farrell, Jonny May, Sam Burgess, Brad Barritt, Anthony Watson, Mike Brown

Eilyddion Lloegr: Rob Webber, Mako Vunipola, Kieran Brookes, Joe Launchbury, James Haskell, Richard Wigglesworth, George Ford, Andy Goode