Bydd Heini Gruffudd yn cael colofn wadd yn y papurau crefyddol Cymraeg
Mae academydd wedi gorfod ymddiheuro ar ôl iddi wneud sylwadau ynglŷn â dau athro mewn colofn sydd yn ymddangos mewn tri o bapurau newydd crefyddol Cymru.

Roedd Dr Carys Moseley wedi cyfeirio at ddau athro o Ysgol Bryntawe gafodd eu gwahardd o’r gwaith ar ôl cael rhyw ar dir yr ysgol, mewn colofn olygyddol yn Y Pedair Tudalen Gydenwadol.

Yn Y Pedair Tudalen Gydenwadol, sydd cael ei dosbarthu ym mhapurau enwadol yr Annibynwyr, Eglwys Bresbyteraidd Cymru a’r Bedyddwyr, fe gwestiynodd Dr Carys Moseley “ymddygiad llac” yr athrawon a gofyn pam nad oedd yr ysgol wedi gweithredu’n gynt i’w disgyblu.

Ond mae’n debyg nawr y bydd ymddiheuriad ganddi, am ei honiad bod yr ysgol wedi “troi llygad ddall”, yn ymddangos yn y tri phapur dros yr wythnosau nesaf.

‘Enllibus’

Yn ei cholofn roedd Dr Carys Moseley wedi cwestiynu “pam na hysbysodd yr athrawon yr awdurdodau addysg yn gynharach” ynglŷn â’r “berthynas odinebus”.

Ychwanegodd nad oedd gan yr ysgol le i gwyno am ganlyniadau TGAU siomedig oherwydd bod y digwyddiad wedi effeithio ar allu plant i ganolbwyntio, os nad oedden nhw wedi gweithredu’n gynt.

Fe aeth hefyd ymlaen i awgrymu bod “safonau ymddygiad yn rhy llac” ymysg staff ysgolion Cymraeg yn gyffredinol gan honni fod ffigyrau yn dangos bod cyfradd uwch o siaradwyr Cymraeg yn cael eu disgyblu yn y gyfundrefn addysg.

Ond fe ddywedodd cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Gyfun Gymraeg Bryntawe, Heini Gruffudd, ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru fod yr honiadau yn enllibus, a bod yr ysgol wedi cymryd y camau disgyblu priodol unwaith y daeth y berthynas yn hysbys.

Tynnu nôl

Fe ymddangosodd yr atodiad oedd yn cynnwys colofn Dr Carys Moseley ym mhapur Y Tyst (Annibynnwyr), Y Goleuad (Presbyteriaid) a Seren Cymru (Annibynwyr).

Mae golwg360 ar ddeall bod pob rhifyn o’r Tyst bellach wedi cael eu tynnu nôl a’u dinistrio, tra bod Y Goleuad wedi hepgor yr atodiad gyda’r golofn ynddi.

Mae disgwyl i ymddiheuriad Dr Carys Moseley, yn ogystal â cholofn gan Heini Gruffudd, gael eu cynnwys yn y papurau enwadol dros yr wythnosau nesaf.