Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi adroddiad ymchwiliad i ddiffyg gweithredu Cynllun Iaith Gymraeg Awdurdod Parc Bannau Brycheiniog.
Penderfynodd y Comisiynydd gynnal ymchwiliad statudol dan adran 17 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 yn dilyn derbyn adroddiad monitro blynyddol yr Awdurdod.
Bwriad y Comisiynydd oedd canfod os oedd yr Awdurdod wedi methu â gweithredu ei gynllun iaith ei hun wrth lansio’r wefan http://www.breconbeacons.org/
Mae’r wefan yn Saesneg ar hyn o bryd ac mae’n dweud arni fod y Gymraeg ar y ffordd gan annog ei defnyddwyr i ddefnyddio Google Translate.
Mae’r Comisiynydd wedi dweud bod y Parc Cenedlaethol wedi cyflawni cymal o’i gynllun iaith drwy “roi ystyriaeth i’r angen i ddarparu fersiwn ddwyieithog o’r wefan wrth lunio’r tendr cychwynnol”.
Ond, fe ddaeth hefyd i’r casgliad fod yr Awdurdod wedi methu â chyflawni cymal 4.5 yn ei gynllun iaith drwy “beidio â lansio gwefan oedd yn arddangos testun Cymru a methu gwneud trefniadau pwrpasol i gyfieithu testun Saesneg y wefan”.
Yn ôl y Comisiynydd, mae’r Awdurdod hefyd wedi methu â chyflawni cymal 6.6.2 o’i Gynllun Iaith gan nad oedd tystiolaeth ei fod wedi “annog y bartneriaeth yr oedd yn gweithredu ynddi i fabwysiadu polisi dwyieithog”.
Argymhellion y Comisiynydd i’r Awdurdod
Yn sgil yr ymchwiliad, mae’r Comisiynydd wedi gwneud pedwar argymhelliad i’r Awdurdod:
0. Dylai’r Awdurdod lunio cynllun adfer manwl gyda’r nod o sicrhau gwefan gyrchfan ddwyieithog.
- 1. Dylai’r Awdurdod ddiwygio canllawiau golygyddol ei wefan er mwyn osgoi cyhoeddi gwefannau nad ydynt yn ddwyieithog yn y dyfodol.
- 2. Dylai’r Awdurdod annog Partneriaeth Cyrchfan Cynaliadwy Bannau Brycheiniog i fabwysiadu polisi dwyieithog.
- 3. Dylai’r Awdurdod osod trefn mewn lle i sicrhau bod unrhyw ddeunydd marchnata a gyhoeddir gan yr Awdurdod, pan mae’n gweithredu fel partner mewn consortiwm, yn ddwyieithog.
Mae’r Comisiynydd wedi gosod amserlen benodol ar gyfer gweithredu’r argymhellion hyn a bydd y broses yn cael ei monitro gan swyddogion y Comisiynydd.
Mae golwg360 wedi gofyn i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog am ymateb.