Elin Jones AC
Mae Plaid Cymru wedi galw am i raglen newyddion gyda’r nos am 6yh gael ei gynhyrchu yng Nghymru, “er mwyn arwain cyfeiriad newydd mewn cyfryngau Cymreig brodorol.”

Mae Elin Jones, AC Plaid Cymru, yn dadlau y byddai darlledu rhaglen newyddion yr awr frig o Gymru yn mynd i’r afael a “natur Lundeinig y newyddion” ac yn gosod safon am ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus.

Mae gwleidyddion Plaid Cymru hefyd wedi rhoi cynigion gerbron am gyfryngau Cymreig cryfach er mwyn “gwneud bywyd yn galetach i wleidyddion”.

Wrth siarad mewn dadl ar y pwnc yn y Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd Elin Jones: “Mae cyfryngau cryf yn elfen hanfodol o ddemocratiaeth rydd a chadarn yn y genedl hon. Nid i wneud bywyd yn haws i wleidyddion ond i wneud bywyd yn galetach iddynt.”

Yn ôl Elin Jones: “Mae angen i ni roi gwell cyfle i bobl graffu ar eu cynrychiolwyr etholedig, a’r llywodraeth yn arbennig.”

‘Hwb i ddemocratiaeth’

Mae Elin Jones yn dadlau dros ddatganoli newyddion ar yr awr frig i Gymru: “Yr wyf i o’r farn y gall darlledu cyhoeddus osod y safon ac y dylai wneud hynny. Un ffordd amlwg i wneud hynny fyddai i brif newyddion awr frig y BBC gael ei redeg, ei olygu a’i ddarlledu o Gymru a thros Gymru.

Ychwanegodd y byddai hyn yn rhoi hwb i ddemocratiaeth: “Fel hyn gallem gael gwedd Gymreig ar newyddion y DG a rhyngwladol – yn Gymraeg ac yn Saesneg. Byddai hyn yn arwain at gyfeiriad newydd yn y cyfryngau Cymreig brodorol a byddai o les i ddemocratiaeth yng Nghymru.”

‘Gwell cydbwysedd’

Dywedodd llefarydd ar ran y BBC: “Rydym eisoes wedi dweud ei bod yn amser sicrhau gwell cydbwysedd rhwng newyddion y DU a newyddion sydd wedi’i deilwra ar gyfer anghenion pob gwlad.

“Yn benodol rydym eisiau ymgynghori gyda chynulleidfaoedd ar draws  y wlad i weld a ydyn ni wedi cael y cydbwysedd cywir rhwng bwletinau newyddion y gwledydd datganoledig a’r DU ar y teledu.”