Alec Warburton
Mae Heddlu De Cymru wedi cadarnhau mai corff y landlord o Abertawe, Alec Warburton, y cafwyd hyd iddo yn Nolwyddelan yn Nyffryn Conwy.

Cafwyd hyd i gorff Alec Warburton, 59, ddydd Sul, ddyddiau’n unig ar ôl i un o’i denantiaid, David Ellis, gael ei arestio yn Iwerddon.

Roedd ditectifs wedi bod yn chwilio am David Ellis, 40 oed, am fwy na mis ar ôl i’w landlord ddiflannu.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r De bod y corff wedi cael ei adnabod yn swyddogol a bod archwiliad post mortem wedi cael ei gynnal ddoe.

“Rydym yn trin ei farwolaeth fel achos o lofruddiaeth ac yn parhau i gynnig cymorth i’w deulu yn ystod y cyfnod anodd hwn,” meddai’r llefarydd.

Cafodd Alec Warburton, a oedd yn byw yn Sgeti, ei weld y tro diwethaf ar 31 Gorffennaf.

Fe wnaeth yr heddlu lansio apêl am wybodaeth gan ddweud bod ei gar Peugeot 205 wedi cael ei weld yng ngogledd Cymru cyn dychwelyd i Abertawe.

Cafwyd hyd i’w gar  rai dyddiau’n ddiweddarach ym mhorthladd Penbedw a dywedodd yr heddlu bod David Ellis wedi cael ei weld yn gadael llong fferi ym Melffast, Gogledd Iwerddon ar 6 Awst.

Aeth swyddogion o Heddlu’r De i Iwerddon a chafodd David Ellis ei arestio yno ddydd Gwener diwethaf. Mae swyddogion yn gobeithio ei ddychwelyd i Gymru er mwyn cael ei holi yn ystod y dyddiau nesaf.