Aelodau Plaid Pride yn gorymdeithio yng Nghaerdydd
I nodi Diwrnod Amlygrwydd Deurywiol, mae Plaid Cymru wedi dweud heddiw ei bod am weld mwy o gydnabyddiaeth i ddeurywioldeb mewn cymdeithas, gan gynnwys mwy o bwyslais ar esiamplau cadarnhaol yn y cyfryngau a’r modd y mae’r heddlu’n adrodd am droseddau.
“Mae esiamplau da ac adrodd mwy manwl gan yr heddlu yn angenrheidiol,” meddai Plaid Pride, mudiad LGBT Plaid Cymru.
Yn ôl y mudiad, mae pobl sydd â hunaniaeth ddeurywiol yn cael eu stereoteipio neu eu barnu o hyd.
Galwodd llefarydd Plaid Pride, Robin Huw Roberts am well cynrychiolaeth yn y cyfryngau a dealltwriaeth o bobl ddeurywiol, ac i ddulliau cofnodi troseddau’r heddlu gynnwys categori penodol ar gyfer troseddau casineb deurywiol.
‘Hyblygrwydd’
“Dangosodd astudiaeth YouGov ym mis Awst nad yw bron i hanner pobl ifanc yn ystyried eu hunaniaeth yn ‘gyfan gwbl strêt’, sy’n cydnabod yr hyblygrwydd mae llawer o bobl yn teimlo yn ystod eu bywydau a dyw rhywioldeb ddim yn beth mor hawdd â thicio blwch,” meddai Robin Huw Roberts.
Mae’n cydnabod bod ‘camau breision’ wedi eu cymryd i gydnabod homorywioldeb dros y blynyddoedd diwethaf ond bod pobl ddeurywiol yn aml yn cael eu ‘stereoteipio neu eu barnu’.
Mae Plaid Cymru wedi dweud bod Adroddiad Deurywioldeb y Brifysgol Agored wedi dangos bod pobl ddeurywiol ddim yn mwynhau bywyd cymaint â phobl o fathau eraill o rywioldeb.
Yn ôl Robin Huw Roberts, mae hyn yn “dangos yr angen i godi ymwybyddiaeth a rhoi cefnogaeth i bobl sydd ei angen.”
“Mae’n bwysig fod esiamplau deurywiol yn cael eu hamlygu yn gadarnhaol yn y cyfryngau, a chydnabod fod rhywioldeb yn cael ei ddiffinio yn ôl yr unigolyn, nid ei gymar.”
Newid agwedd yr heddlu
Mae Plaid Pride hefyd wedi dweud bod angen i’r heddlu newid y ffordd maen nhw’n cofnodi troseddau yn erbyn pobl lesbiaidd, hoyw a deurywiol.
Ar hyn o bryd, mae’r troseddau’n cael eu nodi’n rhai ‘cyfunrywiol’ gan yr heddlu, yn hytrach na gwahaniaethau rhwng y tri enw o fewn y rhywioldeb hwnnw.
Mae Plaid Pride wedi dweud y byddan nhw’n codi’r mater hwn ag ymgeiswyr Plaid Cymru am swyddi Comisiynwyr Heddlu a Throsedd.