Mae’r ganolfan syrffio yn Nolgarrog, Conwy wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn rhaid iddyn nhw gau am yr eildro, rhywbryd yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae’r lagŵn syrffio yn gollwng dŵr yn Surf Snowdonia – felly fe fydd yn rhaid i’r ganolfan gyflogi peirianwyr i’w drwsio. Bydd y gwaith yn para am ddeuddydd, gan olygu na fydd modd cynnal y gwasanaeth syrffio am gyfnod.

Bu rhaid i’r ganolfan – a agorwyd ym mis Gorffennaf – orfod cau am 10 diwrnod yn ystod mis Awst oherwydd problemau technegol tebyg.

Fe ddywedodd llefarydd ar ran y ganolfan eu bod nhw’n “flin iawn am orfod cau’r lagŵn syrffio”.

Cau am ddeuddydd

Fe fyddan nhw’n debygol o gau am ddeuddydd rhywbryd yn ystod y saith diwrnod nesaf.

Fe ddywedodd y llefarydd y byddan nhw’n cysylltu’n uniongyrchol â’r cwsmeriaid gan gynnig ad-daliad llawn iddynt – neu i ychwanegu credyd at eu cerdyn aelodaeth.

Fe wnaeth hefyd gadarnhau y bydd yr holl weithgareddau eraill yn parhau fel arfer ar y safle – gan gynnwys y mannau chwarae, y siopau, y caffis a’r gwersylloedd aros.

Yn dilyn agor y ganolfan syrffio ym mis Gorffennaf eleni, cafodd ei beirniadu’n fuan wedyn am werthu gwersi syrffio ar ei gwefan mewn 35 o ieithoedd, ond nid y Gymraeg.

Mae’r cwmni  yn derbyn £4 miliwn o gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru.