Wrth i’r ddau dîm baratoi i wynebu’i gilydd yng Nghwpan y Byd dydd Sadwrn, does dim amheuaeth fod gornest rhwng Cymru a Lloegr yn golygu mwy i gefnogwyr rygbi’r wlad nag unrhyw gêm arall.

Dyna farn awdur sydd newydd gyhoeddi llyfr am rai o fuddugoliaethau mwyaf cofiadwy Cymru yn erbyn yr hen elyn, gan gynnwys yr un gyntaf nôl yn 1890 a’r grasfa a roddwyd i’r Saeson yn 2013.

Fe fydd y coch a’r gwyn yn herio’i gilydd unwaith yn rhagor y penwythnos hwn, gyda lle yn rownd nesaf y gystadleuaeth yn y fantol a’r sawl sydd yn colli mewn perygl o fynd adre’n gynnar.

Ac yn ôl Lynn Davies, mae’r ffaith bod Cymru’n gallu cystadlu’n gyson â Lloegr mewn rygbi yn cynyddu pwysigrwydd y gemau i’r genedl.

“Mae’n gêm sy’n cael ei ystyried yn bwysicach i ni’r Cymry nag unrhyw gêm arall,” meddai awdur Wales Defeated England, sydd wedi’i chyhoeddi gan wasg Y Lolfa.

“Falle am y rhesymau hanesyddol wrth gwrs, mae’n bwysig curo’r Saeson. Ond hefyd ni’n gallu cystadlu â nhw’n deg ar y cae rygbi dw i’n meddwl, yn wahanol i nifer fawr o chwaraeon eraill. Mae nifer y buddugoliaethau’n agos rhwng y ddau.

“Mae hyd yn oed seice’r genedl yn newid pan mae Cymru’n ennill neu golli yn erbyn Lloegr, mae mor bwysig â hynny i ni. Mae’n record ni’n dda iawn yn eu herbyn nhw.”

Curo’r cewri

Yn ôl Lynn Davies mae camp Cymru cymaint yn fwy pan maen nhw’n curo Lloegr o ystyried fod cymaint mwy o Saeson yn chwarae rygbi o ran niferoedd, gyda chlybiau hefyd yn llawer mwy niferus dros y ffin.

Ac mae’n cytuno bod cân adnabyddus y Stereophonics, gyda’r llinell “as long as we beat the English, we don’t care” yn adlewyrchu ffordd y Cymry o feddwl.

Serch hynny, mae un tîm arall yn ogystal â’r Saeson y byddai’r awdur yn hoff iawn o weld Cymru’n eu curo.

“Un gêm arall mae Cymru bron a marw eisiau gweld buddugoliaeth ynddi, yw honno yn erbyn y Crysau Duon,” cyfaddefodd Lynn Davies.

“Da ni’m ‘di cael honno ers blynyddoedd mawr. Mae honna’n fawr, ond ddim cymaint â maeddu Lloegr dw i ddim yn meddwl.”

Aros yn y cof

Er bod sawl buddugoliaeth gofiadwy i Gymru yn cael sylw yn y llyfr, mae un yn aros yn y cof yn fwy nag unrhyw un arall i’r awdur.

“Nid y fuddugoliaeth fel y cyfryw, ond y ffordd y cyflawnwyd y fuddugoliaeth, reit ar y diwedd, sef cais Scott Gibbs yn 1999 yn Wembley pan wnaeth e ddawnsio drwy amddiffyn Lloegr i gael y cais buddugol,” meddai Lynn Davies.

“Wrth gwrs, roedd rhaid i Neil Jenkins drosi’r cais i gael y fuddugoliaeth, ond y cais oedd yr allwedd i’r fuddugoliaeth.

“Er mai canolwr oedd e’n chwarae, fe alwodd Jeremy Guscott e’n “the fastest prop in world rugby”. Roedd e’n ddyn o gorfforaeth, Scott Gibbs, ond roedd e’n dawnsio drwy amddiffyn Lloegr fel balerina y diwrnod hynny.”

Y diwrnod mawr

Er mai Lloegr fydd y ffefrynnau dydd Sadwrn yn Twickenham, mae Lynn Davies yn mynnu bod hanes yn dangos fod gan Gymru wastad obaith, hyd yn oed gyda’r anafiadau diweddaraf.

“Mae hyder pawb wedi cael ychydig o gnoc ar ôl yr anafiadau diweddar, ond dw i’n dal i gredu bod gyda ni garfan dalentog dros ben,” meddai’r awdur o Lanfairpwll.

“Mae cymaint o enghreifftiau wedi bod yn y gorffennol, sy’n cael eu nodi yn y llyfr, lle’r oedd Cymru’n mynd mewn i gêm a dim gobaith ‘da nhw. Roedd disgwyl i Loegr ennill, ond roedd Cymru’n gallu creu ychydig bach o sioc a maeddu nhw hyd yn oed pan doedd neb yn rhoi gobaith iddyn nhw.

“Dw i’n credu bod pethau’n wahanol nawr. Mae gyda ni garfan sy’n gallu cystadlu’n deg iawn ag unrhyw dîm. Mae ‘na chwaraewyr tebol iawn wrth gefn, a dw i ddim yn ddihyder o gwbl.”