Y difrod wedi'r tan yn y Llyfrgell Genedlaethol
Bydd seremoni yn cael ei chynnal amser cinio heddiw i ail-agor rhan o drydydd adeilad Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn dilyn tân ddwy flynedd yn ol.

Cafodd chwe llawr o swyddfeydd yn bennaf eu dinistrio yn rhannol gan dân a ddechreuodd ar do y Llyfrgell, ar 26 Ebrill, 2013.

Mae’r  Llyfrgell bellach yn gallu defnyddio’r safle ar ôl llawer o waith atgyweirio a chymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru.

 

Pryder dros rai o drysorau llên Cymru

Roedd pryder mawr ynghylch rhai o drysorau llenyddol mwyaf Cymru sy’n cael eu cadw yn y Llyfrgell fel Cyfreithiau Hywel Dda, Llawysgrifau Peniarth, sy’n cynnwys y llawysgrif Gymraeg gynharaf, Llyfr Du Caerfyrddin.

Ond cafwyd sicrwydd gan y Llyfrgell yn dilyn y tân nad oedd colledion mawr i gael ac mai swyddfeydd yn bennaf oedd wedi cael eu difrodi.

“Mae’n bleser gen i groesawu Ken Skates, y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i’r Llyfrgell heddiw i ailagor rhan o’r adeilad sydd wedi’u hadnewyddu yn dilyn y tân difrifol ar 26ain Ebrill 2013,” meddai Syr Deian Hopkin, Llywydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

“Rhaid hefyd i mi ddiolch i staff y Llyfrgell am eu hamynedd ac ewyllys da yn ystod y cyfnod ers y tân gan weithio’n ddygn dan amgylchiadau digon anodd ar adegau.”

Bydd y seremoni yn dechrau am 12:30pm prynhawn yma yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth.