Ysbyty Gwynedd Bangor
Mae bachgen saith oed wedi syrthio 100 troedfedd oddi ar Grib y Ddysgl yn Eryri.
Cafodd ei gludo i’r ysbyty ag anafiadau, ac mae lle i gredu ei fod mewn cyflwr sefydlog.
Roedd y bachgen a’i deulu’n dringo llwybrau serth pan gollodd y bachgen afael ar y tir.
Cafodd Tîm Achub Mynydd Llanberis, hofrennydd gwylwyr y glannau a pharafeddygon eu galw i’r digwyddiad.
Cafodd y bachgen ei gludo i Ysbyty Gwynedd am driniaeth.