Meri Huws, Comisiynydd y Gymraeg
Mae Comisiynydd y Gymraeg wedi cyhoeddi adroddiad ymchwiliad statudol i ddiffyg gweithrediad Cynllun Iaith Gymraeg Cyngor Dinas a Sir Abertawe.

Cynhaliwyd yr ymchwiliad yn dilyn honiad gan aelod o’r cyhoedd bod y Cyngor wedi hysbysebu 19 o swyddi ar ei wefan yn uniaith Saesneg ym mis Mehefin 2015.

Ar ôl i’r Comisiynydd ohebu â’r Cyngor a sefydlu ffeithiau’r mater, daeth amheuon i’r amlwg am weithdrefnau’r Cyngor ar gyfer sicrhau bod hysbysebion swyddi’n cael cymeradwyaeth briodol cyn eu cyhoeddi. Penderfynodd y Comisiynydd gynnal ymchwiliad statudol dan adran 17 Deddf yr Iaith Gymraeg 1993.

Wrth ymchwilio deallodd y Comisiynydd fod adran yn y Cyngor wedi penderfynu rhoi’r gorau i hysbysebu swyddi yn y Gymraeg ar y wefan am gyfnod yn 2015. Gwnaed y penderfyniad heb ymgynghori gydag uwch swyddogion adran Adnoddau Dynol y Cyngor.

Casgliad 

Daw’r Comisiynydd i’r casgliad fod y Cyngor wedi methu â chyflawni cymal yn ei Gynllun Iaith drwy beidio â hysbysebu swyddi ar ei wefan yn Gymraeg.

Mae’r Comisiynydd yn gwneud dau argymhelliad i’r Cyngor. Mae a wnelo’r argymhellion hynny â gosod trefniadau ar droed er mwyn:

* sicrhau bod pob swydd a hysbysebir yn cael ei hysbysebu’n Gymraeg a Saesneg, ag eithrio mewn amgylchiadau lle mae’r Gymraeg yn hanfodol, pan fyddant yn cael eu hysbysebu yn Gymraeg yn unig gyda llinell o esboniad yn Saesneg.

* sicrhau bod unrhyw benderfyniadau sy’n debygol o effeithio ar weithrediad y cynllun iaith yn cael ystyriaeth briodol gan uwch aelodau perthnasol o staff.

Mae amserlen benodol wedi ei gosod ar gyfer gweithredu’r argymhellion hyn. Bydd swyddogion y Comisiynydd yn monitro sut caiff yr argymhellion eu cyflawni.