Mae cwmni trenau First Great Western wedi ymddiheuro’n gyhoeddus am y cerbydau “gorlawn iawn” ar wasanaethau i Gymru heddiw.

Mewn neges ar wefan gymdeithasol Twitter, mae’r cwmni’n dweud: “Rydyn ni’n cydnabod fod y trenau’n orlawn iawn yn Paddington ac ar drenau sy’n mynd i Gymru. Rydym yn ymddiheuro am beidio â rhagweld hyn.”

Mae miloedd o gefnogwyr rygbi yn teithio ar y trenau i Gaerdydd er mwyn gweld y gêm gynta’ y mae prifddinas Cymru yn ei chynnal yng Nghwpan Rygbi’r Byd. Mae honno rhwng Iwerddon a Chanada yn Stadiwm y Mileniwm, ac yn dechrau am 2.30yp heddiw