Mae copïau o gylchgrawn yr NME (New Musical Express), sy’n cael ei olygu gan Gymro Cymraeg o Wrecsam, yn cael eu dosbarthu am ddim am y tro cyntaf erioed heddiw.

Arferai’r NME werthu 200,000 o gopïau yn y 1960au, ond y llynedd roedd gwerthiant wedi cwympo i tua 15,000.

O heddiw ymlaen bydd 300,000 o gopïau yn cael eu dosbarthu am ddim drwy’r byd.

Bydd 500 o gopïau yn cael eu dosbarthu mewn lleoliadau gwahanol yn y DU, gan gynnwys gorsafoedd trên, prifysgolion a siopau.

Yn ôl golygyddion y cylchgrawn roedd angen rhoi’r gorau i godi tâl am yr NME er mwyn ennyn pobol i ddarllen y cynnwys.

Mae pobol yn fwy tebygol y dyddiau hyn o ganfod y newyddion diweddaraf am y byd cerddorol ar-lein.

‘Adennill darllenwyr’

Y gantores bop Rihanna sydd ar glawr y rhifyn cyntaf o’r cylchgrawn am ddim.

Drwy ddosbarthu copïau am ddim, gobaith golygyddion yr NME yw adennill darllenwyr.

“Yn y pen draw, mae hi fyny i’r cyfryngau eu hunain benderfynu a ydyn nhw’n mynd i ymateb a newid,” meddai Mike Williams, y Cymro Cymraeg o Wrecsam sy’n golygu’r NME.