Jeremy Corbyn
Fe allai Plaid Cymru gydweithio gyda Llafur yn amlach yn dilyn ethol Jeremy Corbyn yn arweinydd, yn ôl arweinydd newydd y Blaid yn San Steffan.

Dywedodd Hywel Williams wrth y cylchgrawn Golwg yr wythnos hon bod posibilrwydd y gallai’r ddwy blaid ffurfio cynghrair yn Nhŷ’r Cyffredin i wrthwynebu’r llywodraeth Geidwadol.

Ond gwrthododd Aelod Seneddol Arfon yr awgrym y gallai arweinyddiaeth Jeremy Corbyn niweidio gobeithion y Cenedlaetholwyr yn Etholiadau’r Cynulliad y flwyddyn nesa’.

Gyda’r ddwy blaid o dan arweiniad asgellwyr chwith, mae rhai wedi cwestiynu’r gwahaniaethau rhyngddyn nhw – a’r awgrym yw y gallai ethol Corbyn leihau apêl y Blaid i bleidleiswyr asgell chwith.

“Mae Jeremy Corbyn yn rhannu llawer iawn o’n hagweddau polisi ni,” meddai Hywel Williams.

“Os ydy [Llafur] yn mabwysiadu polisïau mae Plaid Cymru wedi arloesi yna, wrth gwrs, fe fydda ganddon ni ddiddordeb gweithio efo nhw.

“Ond lle maen nhw’n dilyn trywydd sydd yn canoli grym ac yn gwrthod datganoli, fe fydden ni’n eu gwrthwynebu nhw. Os ydyn nhw hefyd yn ymatal ar bleidleisiau allweddol, megis ar y Mesur Lles, fyddwn ni ddim yn yr un cae.

Ychwanegodd Hywel Williams nad yw yn “angenrheidiol” y byddai Llafur o dan Jeremy Corbyn yn fygythiad i Blaid Cymru.

“Dw i ddim yn meddwl mai mater o symud i’r chwith neu i’r dde ydi o (i Blaid Cymru),” meddai Hywel Williams. “Mater o fod yn driw i’r hyn rydym yn gredu ynddo fo.”

Mwy ar ethol Corbyn yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg.