Llys Ynadon Caernarfon
Mae pedair o brotestwyr wedi eu cael yn euog heddiw o achosi difrod troseddol yn ystod protest yn erbyn awyrennau di-beilot ym maes awyr Llanbedr ger Harlech y llynedd.

Roedd Awel Irene, Sian ap Gwynfor, Anna Jen Evans ac Angharad Tomos wedi cyfaddef paentio slogan “Dim Adar Angau” ar y llain lanio yn Llanbedr fel rhan o ymgyrch Cymdeithas y Cymod yn erbyn cynlluniau honedig i ddefnyddio awyrennau di-beilot yn Llanbedr ac Aberporth yn Sir Benfro.

Roedd y pedair wedi dadlau fod ganddyn nhw reswm cyfreithiol dros weithredu i atal “trosedd yn erbyn dynoliaeth.”

Yn Llys Ynadon Caernarfon heddiw cafodd y pedair dynes ryddhad amodol am chwe mis.

Dywedodd y Barnwr Gwyn Jones nad oedd y merched wedi gweithredu yn ddi-hid nac yn fyrbwyll ond fe fydd  yn rhaid iddyn nhw dalu costau ac iawndal o £565 yr un wedi iddyn nhw dorri i mewn i’r maes awyr ar 13 Mehefin y llynedd.

‘Ymgyrch yn parhau’

Wedi’r achos dywedodd Awel Irene wrth Golwg360 ei bod yn croesawu’r  ddedfryd: “I raddau mae’n fuddugoliaeth ac ar y llaw arall, mae angen lot mwy o waith i dynnu sylw at y  ffaith fod awyrennau di-beilot yn torri cyfraith ryngwladol ac yn anfoesol.”

Yn ystod yr achos llys, bu Aelod Senedd Ewropeaidd Plaid Cymru, Jill Evans yn rhoi tystiolaeth ar ran yr amddiffyniad i’r difrod y gall awyrennau di-beilot eu hachosi ar ol iddi ymweld a Gaza.

Dywedodd Awel Irene: “Roedd Jill Evans wedi rhoi tystiolaeth ar ein rhan ac roeddwn i’n teimlo bod hynny wedi bod yn help mawr i’r achos i gael clywed sut oedd hi fel llygad dyst wedi gweld y dioddefaint sy’n cael ei achosi gan awyrennau di-beilot. Roedden ni’n falch o’r cyfle o roi’r pwyntiau drosodd am erchyllterau awyrennau di-beilot.”

Mae Awel Irene yn pwysleisio fod yr ymgyrch yn erbyn yr awyrennau di-beilot yn parhau: “Trwy’r holl broses yma, mae pobl wedi dweud wrthym nad oedden nhw’n gwybod fod hyn yn digwydd, ac mae’n rhaid dod a hyn o flaen y cyhoedd.

“Sut mae cael gwleidyddion i newid eu barn os nad yw’r wybodaeth yno? Mi fyddwn yn parhau gyda’r ymgyrch dros y misoedd nesaf i dynnu sylw at hyn.”

Ychwanegodd Angharad Tomos: “Os ydyw wedi tynnu sylw pobl ar berygl awyrennau di-beilot, yr ydym wedi llwyddo yn ein gweithred.”