Llys Ynadon Caernarfon
Fe fydd pedair o fenywod fu’n protestio yn erbyn arbrofi awyrennau di-beilot ar lanfa maes awyr ym Meirionnydd yn ymddangos yn y llys heddiw.

Mae Sian ap Gwynfor, Anna Jane, Angharad Tomos ac Awel Irene wedi’u cyhuddo o achosi difrod troseddol, ar ôl iddyn nhw baentio slogan ‘Dim Adar Angau’ ar lanfa maes awyr Llanbedr ym Meirionnydd y llynedd fel rhan o ymgyrch Cymdeithas y Cymod yn erbyn arbrofi awyrennau di-beilot.

Fe fyddan nhw’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Caernarfon y bore ma.

Mae’n dilyn ymddangosiad yn Llys Ynadon Dolgellau ar 6 Awst lle’r oedd y pedair menyw wedi pledio’n ddieuog.

Bydd Jill Evans, ASE Plaid Cymru, yn ymddangos yn y llys ar ran y diffynyddion y bore ma.

‘Pryder dychrynllyd’

Mae’r defnydd o awyrennau di-beilot wedi hawlio sylw yn y newyddion yn ddiweddar, ar ol i Lywodraeth San Steffan gadarnhau eu bod wedi defnyddio awyren di-beilot i dargedu’r jihadydd o Gaerdydd, Reyaad Khan yn Syria – y tro cyntaf i ddinesydd Prydeinig gael ei ladd yn fwriadol gan awyren di-beilot.

Roedd nifer o ASau wedi dadlau nad oedd y Prif Weinidog David Cameron, wedi gweithredu’n  gyfreithlon.

Meddai Angharad Tomos: “Mae lladd bwriadol penodedig fel hyn yn achos pryder dychrynllyd. Mae’n tanlinellu mor ffiaidd yw’r awyrennau hyn. Ni ddylent gael eu profi yng Nghymru, ac ni ddylent gael eu cynhyrchu na’i gwerthu.

“Gyda’r ffoaduriaid yn y newyddion, mae pawb yn ymwybodol beth yw cost aruthrol rhyfel. Y cwbl wnaiff lladd efo drones yw gwneud y byd yn lle mwy ansicr, esgor ar ragor o ddial, ac yn y pen draw, ffoaduriaid sy’n talu’r pris.”