Shereen Williams
Bydd cynhadledd yn cael ei chynnal heddiw yn Senedd Ewrop i drafod sut i ddelio’n effeithiol ag eithafiaeth a radicaleiddio.
ASE Plaid Cymru, Jill Evans fydd yn cyd-gynnal y gynhadledd, ‘Chwilio am Naratif Newydd: gobeithion Mwslemiaid Ewrop’ a bydd Shereen Williams, ymgyrchydd Moslemaidd o Gymru yn ei hannerch gydag arbenigwyr eraill o Ewrop.
“Rhaid mai eithafiaeth yw un o heriau mwyaf y ganrif hon a daw’r gynhadledd yma ar gyfnod pan fo straeon am ddynion a menywod ifanc o Ewrop yn teithio dramor i ymuno â mudiadau jihadaidd ar y tudalennau blaen i gyd,” meddai Shereen Williams.
Yn ei chyflwyniad, bydd yr ymgyrchydd, sy’n Gyfarwyddwr Prosiectau a Strategaeth gyda Sefydliad Henna, sy’n cefnogi menywod a theuluoedd Moslemaidd, yn ystyried cefndir radicaleiddio ym Mhrydain ac yn ‘amlygu rhai o’r digwyddiadau sydd wedi cyfrannu at y naratif a gamddefnyddir gan eithafwyr’.
Bydd hefyd yn sôn am ymdrechion y gymuned Fwslimaidd i ‘herio camddehongliadau o’i ffydd’ a dwyn sylw oddi ar y rhai sy’n ‘hyrwyddo ofn a rhaniadau’.
‘Rhaid gweithio er mwyn atal radicaliaeth’
“Rhaid i ni weithredu er mwyn atal sefyllfaoedd lle gall radicaleiddio ddigwydd,” meddai Jill Evans ASE.
Yn ôl y gwleidydd, drwy weithio gyda chymunedau mae datrys y problemau hyn a mynd i’r afael â rhai o’r ffactorau sy’n gallu cyfrannu at eithafiaeth – ‘tlodi, allgau cymdeithasol neu ddiweithdra’.
“Gobeithiaf y bydd y gynhadledd hon yn ein helpu i ddeall y ffenomenon yn well gan gyd-weithio er mwyn atal radicaleiddio. Bydd profiad helaeth Shereen yn gyfraniad sylweddol i’n gwaith ar lefel Ewropeaidd.
“Mae Plaid Cymru wedi galw ar Lywodraeth Cymru i weithio yn agosach ag ysgolion er mwyn atal ein pobl ifanc rhag dilyn y llwybr yma.”
Gallwch wylio’r gynhadledd yn fyw am 4:30pm heddiw.