Mae Cyngor Gwynedd wedi cymeradwyo cynlluniau i gau tair ysgol yn ardal y Bala a’u cyfuno i greu un ysgol ar gyfer plant 3-19 oed ar safle Ysgol y Berwyn.

Dywedodd y cyngor fod angen gwneud y penderfyniad er mwyn sicrhau buddsoddiad o dros £10m ar gyfer y campws newydd.

Y bwriad yw cau Ysgol y Berwyn, Ysgol Beuno Sant ac Ysgol Bro Tegid – er mwyn creu un ysgol ar gyfer plant 3 – 19 oed ar safle Ysgol y Berwyn.

Roedd rhai pobl leol wedi gwrthwynebu’r cynlluniau ar sail y ffaith bod yr ysgol newydd yn mynd i fod â statws eglwysig gyda’r Eglwys yng Nghymru.

Ond mae’r cyngor wedi dweud y byddan nhw’n cynnal adolygiad o’r ddarpariaeth addysg, gan gynnwys effaith y statws eglwysig, o fewn dwy flynedd i agor y campws.

Cyfleusterau newydd

Dywedodd Cyngor Gwynedd y byddai llyfrgell a sinema gymunedol yn ogystal â chyfleusterau chwaraeon yn rhan o ddyluniad y campws newydd.

Fe allai’r ysgol hefyd gydweithio â chlybiau chwaraeon lleol i geisio denu rhagor o fuddsoddiad, gan gynnwys o bosib cae chwarae 3G safon ryngwladol.

“Trwy’r buddsoddiad sylweddol hwn, bydd Cyngor Gwynedd yn sicrhau y bydd plant yr ardal yn derbyn eu haddysg mewn safle sy’n darparu amgylchedd ddysgu newydd o safon unfed ganrif ar hugain,” meddai’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd.

“Mae’r buddsoddiad hefyd yn sicrhau dyfodol tymor hir y ddarpariaeth ôl-16 yn yr ardal, a’r ysgolion gwledig yn y dalgylch.

“Bydd y campws newydd yn cynnig adfywio addysg yn y dalgylch er budd plant o bob oed ac mae hefyd yn golygu bydd y gymuned leol yn manteisio yn uniongyrchol o’r buddsoddiad gyda sefydliadau fel y cylch meithrin, grwpiau drama, grwpiau cymdeithasol, aelodau’r llyfrgell a chlybiau chwaraeon i gyd yn elwa.”

Gwrthwynebiad

Ychwanegodd Gareth Thomas fod y cyngor yn cydnabod nad oedd pawb yn hapus â’r trefniadau newydd, fodd bynnag.

“Rydan ni’n gwerthfawrogi fod yna wrthwynebiad wedi bod gan rai am statws arfaethedig yr ysgol ac rydym wedi gwrando ar yr awydd i adolygu’r ddarpariaeth newydd,” meddai’r cynghorydd.

“Bydd Cyngor Gwynedd yn cynnal adolygiad o berfformiad yr ysgol fydd yn cynnwys ansawdd yr addysg a ddarperir, cynnydd addysgol, profiadau diwylliannol a chymdeithasol y disgyblion, y defnydd o adnoddau, ac unrhyw effaith y categori Gwirfoddol a Reolir (VC, Eglwys yng Nghymru), wedi dwy flynedd o ddyddiad agor y Campws.

“Wrth gynnal y broses yma fe fydd y Cyngor yn ymgynghori gyda rhieni, darpar-rieni a budd-ddeiliaid ehangach er mwyn do di farn ar briodoldeb yr addysg a’r statws eglwysig.”