Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae enwau’r cast a fydd yn serennu yn y ffilm newydd Gymraeg, Y Llyfrgell, wedi’u cyhoeddi.

Mae’r ffilm yn seiliedig ar nofel boblogaidd Fflur Dafydd a enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn 2009, ac mae wedi’i lleoli yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Caiff y nofel ei throsi drwy’r cynllun Cinematic, a’r cyfarwyddwr yw Euros Lyn.

Y cast fydd yn ymddangos  yn y ffilm fydd:

  • Ryland Teifi – i chwarae’r cofiannydd Eben
  • Catrin Stewart – i chwarae’r efeilliaid Nan ac Ana
  • Dyfan Dwyfor – i chwarae’r porthor Dan
  • Sharon Morgan – i chwarae’r awdures Elena Wdig

‘Thriller Cymraeg’

Mae’r ffilm yn sôn am antur dwy efaill wrth ymchwilio i lofruddiaeth ei mam yn y Llyfrgell Genedlaethol ac, wrth gwrs, caiff Dan y porthor, ei lusgo i’r saga.

“Rwy’n hynod gyffrous o gael creu thriller yn y Gymraeg”, meddai’r cyfarwyddwr Euros Lyn.

“A pha le gwell ar gyfer hyn na Llyfrgell Genedlaethol Cymru, â’i naws atmosfferig a’i leoliad uwchben tref Aberystwyth?”, ychwanegodd.

Mae Euros Lyn yn gyfarwyddwr profiadol sydd wedi bod ynghlwm â’r rhaglenni Cymraeg fel Pam Fi Duw a rhaglenni Saesneg megis Doctor Who a Torchwood.

“Mae gan Gymru bellach liaws o awduron, actorion a  chynhyrchwyr o’r radd flaenaf, ac edrychaf ymlaen yn fawr at gael cydweithio â nhw,” meddai.

Fel ffilm y dychmygodd yr awdures, Fflur Dafydd, y nofel yn wreiddiol, felly “mae gweld y cymeriadau yn dod yn fyw ar y sgrin fawr yn dod â’r freuddwyd yn fyw imi”, meddai.

Bydd Fflur Dafydd yn cyd-gynhyrchu’r ffilm ag Euros Lyn, a “theimlaf yn ffodus iawn o gael cydweithio â chyfarwyddwr hynod dalentog a chast rhagorol”, meddai.

Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Dyma’r ffilm gyntaf i gael ei gosod yn adeilad eiconig Llyfrgell Genedlaethol Cymru sy’n llawn trysorau cenedlaethol a rhyngwladol.

“Mae natur ein gwaith a phroffil yr adeilad yn golygu bod gennym lawer o gynhyrchwyr rhaglenni yn dod yma i recordio, ond dyma’r tro cyntaf i ffilm gael ei gosod yma”, meddai Avril Jones, Cyfarwyddwr Casgliadau a Rhaglenni Cyhoeddus y Llyfrgell.

“Mae pensaernïaeth yr adeilad yn naturiol yn cyfleu naws o ddirgelwch ar gyfer prosiect o’r fath ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weld y ffilm orffenedig,” ychwanegodd.

Cinematic

Dyma’r drydedd ffilm i gael ei chynhyrchu gan Cinematic, cynllun talent newydd Ffilm Cymru Wales.

Bwriad Cinematic yw cefnogi ffilmiau newydd yng Nghymru, gan hybu cynyrchiadau cyfoes, deinamig ac arloesol.

Y Llyfrgell fydd y ffilm gyntaf gan Cinematic i gael ei ffilmio yn y Gymraeg.