Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb AS (llun: PA)
Does dim byd newydd ynghylch polisïau Jeremy Corbyn gan eu bod nhw eisoes ar waith yng Nghymru, yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Stephen Crabb.

“Mae Llafur Cymru o’r diwedd wedi cael arweinydd Prydeinig yn eu delw eu hunain,” meddai wrth ymateb i fuddugoliaeth ysgubol Corbyn heddiw.

“Maen nhw eisoes wedi gwahardd ysgolion rhydd, academïau a’r hawl i brynu.

“Mae Cymru eisoes yn faes arbrofi Corbyniaeth.”

Roedd yr un mor ddirmygus o ddirprwy arweinydd newydd Llafur, Tom Watson:

“Mae Tom Watson wedi dweud nad oes unrhyw anghysondeb mewn bod o blaid busnes ac o blaid y gweithiwr,” meddai, wrth gyfeirio at araith y dirprwy y bore yma.

“Yn anffodus, nid yw Llafur o blaid y naill na’r llall.”