Thierry Henry
Os ydych chi’n taro heibio i ardal Casnewydd yn fuan ac yn gweld drôn gyda chamera yn hedfan yn yr awyr, peidiwch â phoeni – efallai mai dim ond cyn-enillydd Cwpan y Byd sydd yno’n profi ei dechnoleg ddiweddaraf.

Mae Thierry Henry ymysg yr hyfforddwyr sydd bellach yn defnyddio drôns i ffilmio sesiynau ymarfer wrth iddo geisio ennill ei fathodynnau hyfforddi gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae’r Ffrancwr yn un o sawl cyn-chwaraewyr enwog, gan gynnwys Patrick Vieira a Marcel Desailly, sydd wrthi’n ceisio ennill bathodynnau yng nghanolfan bêl-droed Cymru ym Mharc y Ddraig.

Ac mae’n debyg mai defnyddio drôns sydd yn hedfan i fyny a ffilmio patrymau’r sesiwn ymarfer o’r awyr yw’r dechnoleg ddiweddaraf sy’n cael ei ddefnyddio i geisio helpu’r hyfforddwyr addawol.

Gweld yn bellach

Dywedodd cyn-ymosodwr Lloegr Michael Owen, sydd bellach yn berchen cwmni M7 Aerial sydd yn darparu drôns, fod Henry a hyfforddwr Everton Roberto Martinez bellach ymysg y rheiny sydd yn defnyddio’r dechnoleg i ddadansoddi sesiynau.

“Mae rheolwyr wastad yn gwylio pethau o’r ochr, o’r ystlys, o’r fainc – mae llawer yn pendroni pam fod rheolwyr yn mynd fyny i’r eisteddle,” meddai Michael Owen wrth siarad yng nghynhadledd Soccerex.

“Mae e achos eich bod chi’n cael gwell golwg yn dactegol o ble mae’ch dynion chi, a ble mae pethau’n mynd. Mae Thierry Henry, wrth wneud ei fathodynnau – mae e eisiau i bopeth gael ei ffilmio o’r awyr.

“Chi un cam yn uwch gyda drôn. Mae llawer o dimau nawr yn defnyddio technoleg drôn i fynd lan a ffilmio sesiynau ymarfer fel eich bod chi’n llythrennol yn gallu dweud wrth bobl ‘ti yn y safle yma, dyma ble ddylet ti fod’.”