Super Furry Animals
Fe fydd y Super Furry Animals yn chwarae gig brotest ym Manceinion fis nesaf gyda Charlotte Church tra bod cynhadledd flynyddol y Ceidwadwyr yn cael ei chynnal yn y ddinas.

Mae’r band Cymraeg, a ail-ffurfiodd yn gynharach eleni, wedi bod yn feirniaid cyson o bolisïau llymder y llywodraeth Geidwadol yn ddiweddar.

Ac mewn datganiad tanllyd mae’r Super Furrys wedi cyhuddo Llywodraeth Prydain o “drosedd” wrth hybu “barusrwydd preifat” a gadael y mwyafrif o bobl â “dim”.

Ond fe ddywedodd Aelod Seneddol Ceidwadol Aberconwy Guto Bebb y dylai’r artistiaid dderbyn fod y llywodraeth Geidwadol bresennol – a’i pholisïau – wedi cael eu cymeradwyo gan yr etholwyr.

‘Twyll ac ofn’

Wrth gyhoeddi’r gig ar y pumed o Hydref yn Academi Manceinion, mewn cydweithrediad â mudiad The People’s Assembly Against Austerity, mynnodd y band fod y llywodraeth bresennol yn niweidio bywydau miliynau o bobl.

“Mae beth sydd wedi digwydd mewn gwleidyddiaeth sefydliadol yn drosedd, ac yn profi’n ffydd ni mewn dynol ryw,” meddai’r Super Furry Animals.

“Rydyn ni’n gweld y cyfrifon yn cael eu hailgydbwyso er mwyn ffafrio barusrwydd preifat yn hytrach na chyfoeth cyhoeddus, er mwyn sicrhau bod y mwyafrif haeddiannol â dim ar ôl oherwydd lleiafrif anfoesol.

“Mae’r llywodraeth Geidwadol a’r glymblaid cynt wedi gweithio’n galetach i amddiffyn yr anghydbwysedd hwn na neb, gan reoli drwy dwyll ac ofn.

“Dyma’n ymateb cerddorol ni i’r anghyfiawnderau hynny ac rydyn ni’n gofyn i’n gwrandawyr ystyried os yw’r elit gwleidyddol a busnes wir yn poeni am eu buddiannau nhw.”

Ychwanegodd Charlotte Church y bydd hi’n cymryd rhan am ei bod hi’n credu fod y llywodraeth yn “eithafol yn ei hideoleg ac yn fygythiad real i’n rhyddid, ein breintiau a’n dyfodol economaidd”.

Bebb – ‘Cefnogaeth wedi cynyddu’

Fodd bynnag, cwestiynodd yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Aberconwy beth oedd gwerth i’r artistiaid brotestio nawr fod yr etholiad cyffredinol wedi cael ei chynnal.

“Mae’n beth da bod yr artistiaid yn cymryd diddordeb yn y sefyllfa wleidyddol, a does gen i ddim gwrthwynebiad i’r Super Furry Animals a Charlotte Church na neb arall i nodi eu pryderon ynghylch polisïau’r llywodraeth,” meddai Guto Bebb.

“Ond dw i’n meddwl ei bod hi’n bwysig iddyn nhw nodi bod etholiad cyffredinol wedi bod dim ond ym mis Mai, a bod pleidlais y Ceidwadwyr wedi cynyddu yng Nghymru ac ym Mhrydain.

“Mae’r blaid Geidwadol wedi denu mwyafrif, ac wedi denu cefnogaeth tuag at yr union bolisïau maen nhw’n protestio yn eu herbyn.

“Felly efallai y byddai’n well iddyn nhw ymgyrchu yn ystod yr etholiad cyffredinol, yn hytrach na cheisio cael y sylw rŵan yn dilyn penderfyniad pobl Cymru a Phrydain.”