Prif Weinidog Cymru
Mae Prif Weinidog Cymru dan y lach am draddodi araith uniaith Saesneg o flaen miloedd o bobol yn ystod ymweliad â Phatagonia dros yr Haf.

Yng nghylchgrawn Golwg mae Carwyn Jones yn cael ei gyhuddo o danseilio “bron yr holl waith” o hybu’r Gymraeg yn y Wladfa a bod trigolion yno wedi eu “synnu”.

Carwyn Jones sy’n gyfrifol am y Gymraeg o fewn Llywodraeth Cymru, a bu’n areithio yng Ngŵyl y Glaniad yn yr Ariannin – digwyddiad i ddathlu 150 o flynyddoedd ers i’r Cymry lanio yn y Wladfa a sefydlu cymunedau Cymraeg eu hiaith.

Mae Llywodraeth Cymru wedi amddiffyn y penderfyniad i areithio yn Saesneg “er mwyn i’r cyfieithydd swyddogol gyfieithu o’r Saesneg i’r Sbaeneg er budd y sawl yn y gynulleidfa oedd yn uniaith Sbaeneg.”

Ychwanegodd y llefarydd bod “mwyafrif helaeth” o areithiau eraill Carwyn Jones yn ystod ei gyfnod yno yn Gymraeg.

Athrawes yn “gegrwth”

Roedd Esyllt Nest Roberts, athrawes yn y Gaiman ym Mhatagonia, yn “gegrwth” ac wedi ei “synnu” na chafwyd gair o Gymraeg gan Brif Weinidog Cymru yn ei araith yng Ngŵyl y Glaniad.

“Mae yna flynyddoedd o waith caled wedi cael ei wneud o geisio hybu’r Gymraeg yma, i bobol beidio bod â chywilydd o ddefnyddio’r iaith ac i fod yn hyderus ac ymfalchïo ynddi,” meddai Esyllt Nest Roberts.

“Ac mae’r Prif Weinidog yn dod yma a thanseilio bron yr holl waith sydd wedi cael ei wneud.”

“Cryn embaras”

Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae’r araith Saesneg yn “gryn embaras” ac yn fater o “[g]ywilydd i ni fel cenedl”.

“Mae’n anodd credu nad oedd ein Prif Weinidog yn gallu gweld y basa siarad yn Gymraeg yn fwy priodol,” meddai’r Cadeirydd, Jamie Bevan.
“Mae Patagonia yn unigryw o ran mai’r Gymraeg yw’r iaith gyffredin rhyngom, nid y Saesneg.”

Cewch fwy am hyn gan Gareth Pennant yn y rhifyn cyfredol o gylchgrawn Golwg.