Cafodd dyn ei arestio ar amheuaeth o godi twrw ac o achosi difrod troseddol wedi i’r heddlu gael eu galw i Lanfairpwll yn Ynys Môn nos Fawrth.

Roedd y dyn wedi dringo i ben to adeilad ac fe fu’n rhaid i swyddogion arbenigol yr heddlu ei annog i ddod i lawr.

Cafodd yr heddlu eu galw toc cyn 10 o’r gloch neithiwr.

Dywedodd y Prif Arolygydd Simon Barrasford o Heddlu’r Gogledd: “Ein blaenoriaeth drwyddi draw oedd diogelwch pawb oedd ynghlwm.

“Hoffem ddiolch i drigolion lleol am eu hamynedd a’u dealltwriaeth tra bod swyddogion yn ymdrin â’r digwyddiad oedd yn gofyn bod nifer o ffyrdd lleol yn cael eu cau.”