Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig wedi beirniadu Llywodraeth Prydain am fod yn “gul eu meddwl” wedi iddyn nhw wrthod pum cais cynllunio i godi ffermydd gwynt yng Nghanolbarth Cymru.

Daeth cyhoeddiad y Gweinidog Ynni, Andrea Leadsom, brynhawn ddoe gan ddweud y byddai 5 cais allan o 6 yn cael eu gwrthod ym Mhowys.

Daw’r penderfyniad hwn er gwaethaf argymhellion cadarnhaol yr Arolygydd Cynllunio  Annibynnol a oedd o blaid tair ohonyn nhw.

 “Gwrthod mentrau gwyrdd”

Fe wnaeth ymgeisydd cynlluniad y Democratiaid Rhyddfrydol yn sir Drefaldwyn, Jane Dodds, feirniadu’r penderfyniad gan ddweud ei bod hi wedi’i synnu gan Lywodraeth Prydain.

“Mae galw cynyddol ar y DU i fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy er mwyn mynd i’r afael â’r bygythiadau i newid hinsawdd”, meddai.

“Ond eto, mae’r Llywodraeth Geidwadol fel petaen nhw’n benderfynol o wrthod mentrau gwyrdd bob cyfle gânt”.

Esboniodd hefyd am y potensial oedd gan y cynlluniau hyn i gymunedau gwledig yr ardal, drwy gynnig swyddi, datblygiadau economaidd a buddsoddiad i’r ardal.

“Dw i’n siomedig i weld y cyfleoedd hyn yn cael eu gwastraffu”, meddai.

 “Cul eu meddwl”

Fe gyhuddodd William Powell, Llefarydd yr Amgylchedd a Materion Gwledig y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig Llywodraeth Geidwadol y DU o “fod yn gul eu meddwl pan ddaw’n fater o ynni adnewyddadwy”.

Nid oedd chwaith yn deall pam fod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi gwyro oddi wrth argymhellion yr Arolygydd annibynnol.

“Mae hyn yn codi’r cwestiwn ynghylch sut ydyn ni’n mynd i ddiogelu’r ynni fydd ei angen ar deuluoedd a busnesau yn y dyfodol?

“Byddai rhuthro at gynlluniau ffracio neu niwclear yn frawychus iawn – i’n cenhedlaeth ni a’r nesaf”, ychwanegodd William Powell.

Y ffermydd gwynt

Y pum cynllun a wrthodwyd oedd ffermydd gwynt Llanbadarn Fynydd, Llaithddu, Llanbrynmair, Carnedd Wen, ynghyd â chyswllt trydan uwchben y ddaear rhwng Llandinam i is-orsaf drydan Y Trallwng.

Ond mae cynllun i ail-bweru fferm wynt Llandinam wedi’i gymeradwyo.