Cyngor Sir Ceredigion
Mae Cyngor Sir Ceredigion wedi penderfynu’r prynhawn yma y byddan nhw’n parhau i gau dwy ysgol ger Aberystwyth.

Yn ôl y Cyngor, mae niferoedd Ysgol Llangynfelyn yn Nhaliesin, ger Machynlleth wedi disgyn yn is na 30 ac mae Ysgol Cwm Padarn, yn Llanbadarn yn agos i dair ysgol arall lle mae’r niferoedd hefyd yn disgyn.

Mae rhieni wedi bod yn brwydro yn erbyn y penderfyniad i gau’r ddwy ysgol.

Ymateb chwyrn rhieni

Dywedodd Louise Hale Strape, rhiant sydd wedi bod yn flaenllaw yn yr ymgyrch i achub Ysgol Llangynfelyn ei bod ‘yn ddigalon’ ond nad oedd y penderfyniad wedi ei synnu.

“Dyw penderfyniad y Cyngor ddim wedi fy synnu achos doedden nhw ddim yn ateb ein pryderon yn deg yn eu hymateb i’r ymgynghoriad. Mae’n amlwg eu bod wedi ceisio defnyddio’r data i’w buddiannau nhw,” meddai wrth Golwg360.

Mae’r ymgyrch nawr yn parhau, gyda’r grŵp o rieni ac aelodau’r gymuned leol yn mynd at gyfreithiwr sy’n arbenigo mewn addysg.

Pryder dros yr iaith yn y gymuned

Mae Louise Hale Strape hefyd yn poeni am effaith ieithyddol cau’r ysgol, er nad yw hi’n siarad Cymraeg ei hun, mae’n falch bod ei phlant yn cael addysg Gymraeg yn yr ysgol leol:

“Rydym ni am i’r plant ddysgu Cymraeg, ac os bydd yr ysgol leol yn cau mae pryder bydd y plant yn mynd i ysgolion mwy o faint yn Aberystwyth, ac mae’r rhain yn debygol o fod yn ysgolion Saesneg.”

Mae Cymdeithas yr Iaith hefyd wedi beirniadu penderfyniad y Cyngor.

“Ar ôl symud i’r ardal mae nifer o deuluoedd wedi dod yn rhan o’r gymuned a’r ysgol yw eu prif gysylltiad â’r Gymraeg a’r diwylliant Cymreig,” meddai Bethan Williams, swyddog Maes Dyfed y mudiad.

“Nid yn unig bydd colli plant o addysg Gymraeg wrth i rieni fynd a’u plant at ysgolion Aberystwyth, am ei fod yn fwy cyfleus, neu’n eu haddysgu adref ond bydd y gymuned yn cael ei chwalu wrth i’r plant gael eu rhannu.”

Bydd disgwyl i’r cyngor sir gyhoeddi’r rhybudd statudol o fewn 28 diwrnod, a bydd cyfle am wrthwynebiadau.

Bydd cyfarfod llawn y Cyngor yn penderfynu’n derfynol ar y mater ym mis Rhagfyr.