Edwina Hart
Mewn cytundeb newydd gydag Innovate UK, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau buddsoddiad o £8.4m i hybu gwyddoniaeth, arloesi a thechnoleg ymysg busnesau yng Nghymru.
Bydd y cyllid hwn yn gyfle i greu partneriaethau a fydd yn annog busnesau Cymru i gynhyrchu ar raddfa fwy ac i fod yn fwy cystadleuol yn eu meysydd gan fanteisio ar eu sgiliau gwyddoniaeth a thechnoleg, meddai Llywodraeth Cymru.
O’r £8.4m sydd wedi’i neilltuo, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyllido gwerth £4.2 miliwn o’r cyllid hwnnw, er mwyn cynnal y rhaglen dros gyfnod y Memorandwm.
“Mae’n hollbwysig cynnal mwy o waith ymchwil, datblygu ac arloesi yng Nghymru er mwyn sicrhau twf byd busnes a chael economi iach sy’n creu swyddi da”, meddai Edwina Hart, Gweinidog yr Economi.
‘Cyfle i fyfyrwyr sydd newydd raddio’
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd busnesau, sefydliadau academaidd a myfyrwyr sydd newydd raddio yn elwa o’r partneriaethau hyn.
Bydd Innovate UK yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i gynorthwyo busnesau ar hyd a lled Cymru i ddatblygu eu syniadau arloesol.
“Rydyn ni’n llywodraeth sydd o blaid busnes, ac rwyf i’n benderfynol o wireddu ein hagenda i annog cydweithio da rhwng diwydiant ac academia”, meddai Edwina Hart.
Yn ystod cyfnod y Memorandwm diwethaf, ymrwymodd mwy na 70 cwmni o Gymru i Bartneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth.
Yn sgil hyn, crëwyd mwy na 200 o swyddi ansawdd uchel, gyda graddedigion yn elwa ohonynt.
“Mae gan Gymru hanes cryf o gefnogi Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth”, meddai Edwina Hart.
“Maen nhw’n hanfodol ar gyfer ehangu ein sylfaen gwybodaeth, technoleg ac arbenigedd ac yn esiampl wych o gydweithio da er lles pobl Cymru,” ychwanegodd.
Cefndir
Corff cyhoeddus yw Innovate UK, a nod yr asiantaeth yw hybu twf yr economi yn y DU ynghyd â gwella ansawdd byw pobol drwy ddatblygu gwyddoniaeth, technoleg ac arloesi ymhlith busnesau.
Wrth ymrwymo i Bartneriaeth Trosglwyddo Gwybodaeth, bydd busnesau o Gymru yn llofnodi Memorandwm Dealltwriaeth a fydd yn parhau tan fis Mawrth 2018.
.