Y Coliseum ym Mhorthmadog
Fe wnaeth aelodau o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd bleidleisio o blaid cais i ddymchwel adeilad y Coliseum ym Mhorthmadog yn ystod eu cyfarfod y prynhawn yma.
Maen nhw wedi cymeradwyo dymchwel yr hen sinema, ar yr amod y byddai’r cynlluniau ar gyfer dyfodol y safle yn cael eu trafod ymysg y gymuned leol.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd wrth Golwg360 fod y cais i’w ddymchwel wedi’i basio yn ystod y cyfarfod heddiw, ond bod y cynlluniau ar gyfer dyfodol y safle yn ansicr ar hyn o bryd.
‘Siomedig’
Roedd Alwyn Gruffydd, y Cynghorydd dros ward Porthmadog a Thremadog, yn “siomedig” fod y cynllun “wedi cyrraedd y pwynt yma”.
“Mae’n bechod fod bob dim yn cael ei chwalu,” meddai, wrth nodi fod adeilad y Coliseum yn adeilad “eiconig” gyda “phensaernïaeth arbennig”.
Roedd y Cynghorydd yn cydnabod nad oedd cymaint o alw am wasanaeth y sinema fel ag yr oedd, ond fe ddywedodd ei bod hi’n “bechod i ddymchwel yr adeilad ei hun”.
Cefndir
Mae’r achos dros ddyfodol adeilad y Coliseum wedi bod yn bwnc llosg ers sawl blwyddyn, gyda’r ymgyrch yn cyrraedd ei hanterth y llynedd.
Yn 2011, daeth y penderfyniad gwreiddiol i gau’r sinema oherwydd diffyg diddordeb y cyhoedd yng ngwasanaethau’r safle.
Yna, yn ystod Hydref a Thachwedd 2014, bu ymgyrch gref gan ymgyrchwyr a phobol leol i achub yr adeilad.
Ond, collwyd y cyfle olaf i’w arbed, pan wrthododd Cadw y cais i roi statws arbennig i’r adeilad ddiwedd Hydref 2014.
Agorwyd adeilad y Coliseum yn wreiddiol yn 1931, ac mae’n nodweddiadol o sinemâu’r cyfnod gyda’i bensaernïaeth art deco.