Mae’r Sefydliad Materion Cymreig (IWA) wedi beirniadu Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC am beidio â chael cynlluniau clir ar sut i wella ei allbwn yng Nghymru.

Wrth ymateb i araith yr Arglwydd Tony Hall yn Llundain heddiw ar weledigaeth y gorfforaeth dywedodd cyfarwyddwr  y Sefydliad Materion Cymreig, Lee Waters:  “Ym mis Ebrill, daeth Tony Hall i Gaerdydd i ddweud bod y BBC ddim yn gwneud digon i ddangos bywyd yng Nghymru yn ei allbwn.

“Dros flwyddyn yn ddiweddarach, wrth iddo gyflwyno gweledigaeth y BBC, dyw e heb ddweud sut mae am wella hyn.”

Dywedodd Tony Hall yng Nghaerdydd y llynedd fod “rhaglenni Saesneg o Gymru ac ar ei chyfer wedi dirywio ers bron i ddegawd.”

Yn ôl Ofcom, mae’r gwario ar raglenni yng Nghymru wedi cael ei dorri mwy na 30% ers 2008, ac mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi galw am £30 miliwn i BBC Cymru fel rhan o’r broses o adolygu ei Siarter.

Galw am BBC sy’n adlewyrchu’r bobl

Mae IWA wedi dweud bod yn rhaid i BBC Cymru allu “cynhyrchu cynnwys sy’n galluogi pobl Cymru i weld eu cymunedau a’u gwlad yn cael ei hadlewyrchu.”

Maen nhw hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd rôl y BBC o hybu ymwybyddiaeth wleidyddol y genedl. Gydag etholiadau’r Cynulliad yn cael eu cynnal ym mis Mai 2016, mae’r IWA yn nodi nad yw hanner o bleidleiswyr Cymru yn ymwybodol bod polisi iechyd yn cael ei benderfynu ym Mae Caerdydd ac nid yn Llundain.

“Mae gan y BBC rôl fawr i chwarae wrth leihau’r diffyg democratiaeth hwnnw. Mae Tony Hall yn gwybod hynny.”

‘Galw am ail wasanaeth Cymraeg’

Mae ymgyrchwyr iaith wedi galw am ail wasanaeth Cymraeg yn dilyn araith Tony Hall heddiw sy’n sôn am ehangu cynnwys y gorfforaeth mewn nifer o ieithoedd y byd, ond nid y Gymraeg.

Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yn dweud bod twf aruthrol wedi bod mewn gwasanaethau Saesneg ers degawdau ond toriadau i wasanaethau Cymraeg, megis cwtogi oriau radio Cymru, yn enwedig gan y BBC.

Mae’r dewis o sianeli teledu Saesneg ar gael yng ngwledydd Prydain wedi tyfu ymhell dros 450 ac mae hefyd dros 600 o orsafoedd radio yn darlledu yn Saesneg, meddai Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Er y twf hwn dros y blynyddoedd diwethaf, dim ond un sianel deledu ac un orsaf radio Cymraeg sydd o hyd, y lleiafswm sy’n cael ei ganiatáu o dan gytundeb Ewropeaidd ar ieithoedd llai.

‘Toriadau cyson’

Daw’r alwad am wasanaeth Cymraeg ychwanegol wedi i Brif Weinidog yr Alban ac RTE yn Iwerddon amlinellu cynlluniau ar gyfer rhagor o wasanaethau yn eu gwledydd nhw. Wrth ymateb i araith Tony Hall, dywedodd Aled Powell, llefarydd darlledu Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:

“Mae’n rhyfedd clywed y BBC yn sôn am ddarparu rhagor o wasanaethau mewn ieithoedd eraill y byd, a hynny heb gynllunio i ehangu eu darpariaeth Gymraeg.

“Mae’r syniad o greu sianel ryngweithiol i Gymru yn un da, ond nid oes sôn am ehangu’r cynnwys Cymraeg er gwaethaf toriadau cyson i’w allbwn Cymraeg dros y blynyddoedd. Mae’n dod yn gliriach nag erioed bod angen datganoli darlledu er mwyn cael system sy’n ymateb i anghenion Cymru. Mae plwraliaeth y cyfryngau yng Nghymru, yn enwedig yn Gymraeg, yn broblem nad oes modd i gorfforaeth Tony Hall ei hateb.

Mae’n dda bod y BBC yn cytuno gyda’r Gymdeithas bod angen darparwr aml-gyfryngol newydd er mwyn cynnig dewis i siaradwyr Cymraeg. Dyna sydd ei angen, yn hytrach na pharhau i geisio apelio at bawb trwy un orsaf radio ac un sianel teledu. Ond rydyn ni’n credu y dylai darparwr o’r fath fod yn annibynnol o’r BBC, er mwyn sicrhau gwir ddewis, a hynny’n Gymraeg.”

‘Diffyg gwybodaeth’ am S4C

Yn dilyn araith y Cyfarwyddwr Cyffredinol, mae Aled Roberts AC y Democratiaid Rhyddfrydol wedi rhybuddio y gall dyfodol darlledu Cymraeg fod yn y fantol os bydd cyllideb S4C yn wynebu rhagor o doriadau.

Mae’r blaid wedi beirniadu’r BBC am beidio â rhoi gwybodaeth am ei gynlluniau cyllid ar gyfer S4C.

“Mae croeso i eiriau cynnes ac addewidion (y BBC) i rannu gwasanaethau â S4C, ond er mwyn sicrhau dyfodol darlledu Cymraeg, mae’n rhaid i arian go iawn ddod gyda’r geiriau cynnes,” meddai Aled Roberts, sy’n llefarydd dros y Gymraeg i’r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru.