Un o fysys Edwards Coaches
Mae disgwyl i rai o’r teithwyr fu mewn damwain bws yn y Swistir ddydd Gwener ddychwelyd i Gymru’r prynhawn yma.

Mae 2 o’r gyrwyr a 4 teithiwr arall wedi gorfod aros yn y Swistir am gyfnod hwy oherwydd anafiadau mwy difrifol.

Fe ddywedodd Jason Edwards, Cyfarwyddwr Masnachol cwmni bysiau Edwards Coaches, nad oedd yr anafiadau “yn rhy ddifrifol”, ond bod rhai wedi torri esgyrn.

‘Lori’n taro’r bws’

Roedd y bws gan gwmni bysiau Edwards o ardal Pontypridd yn cludo 39 o bobol yn ôl i dde Cymru’r diwrnod hwnnw.

Roedden nhw wedi treulio cyfnod ar wyliau yn yr Eidal, pan fu lori mewn gwrthdrawiad a’r bws wrth iddyn nhw gael eu dal mewn traffig yn ninas Zurich, y Swistir.

Dywedodd Jason Edwards fod y teithwyr yn teithio ar fws newydd Mercedes Turismo, ac roedd e’n falch o hynny, am fod gan y bws hwnnw lefelau uchel o ddiogelwch.

“Petaen nhw wedi bod yn teithio ar fws arall, gallen ni fod yn delio â sefyllfa lawer gwaeth,” meddai’r Cyfarwyddwr Masnachol.

Fe wnaeth y cwmni fuddsoddi £2.5m y llynedd ar fysiau newydd ac, yn ôl Jason Edwards, “fedrwch chi ddim rhoi pris ar ddiogelwch”.

Cysylltodd Edwards Coaches â theulu’r teithwyr yn syth wedi’r ddamwain, “ond oherwydd cysylltiadau ffôn gwan, mae hi wedi bod yn anodd cael gafael arnynt”, meddai Jason Edwards.

Fe ddywedodd Heddlu Lucerne fod pedwar lori wedi bod ynghlwm â’r ddamwain i gyd, a bod yr ymchwiliadau’n parhau.