Myfanwy Horton - ar goll ers prynhawn ddoe (llun: Heddlu Dyfed-Powys)
Mae Heddlu Dyfed-Powys wrthi’n chwilio am ddynes 73 oed sydd ar goll yn ardal Aberteifi.

Cafodd Myfanwy Horton o Cilgerran ei gweld ddiwethaf yn y Cliff Hotel, y Gwbert, tua 5 o’r gloch brynhawn ddoe.

Caiff ei disgrifio fel tua 5 troedfedd 6 modfedd o daldra, gyda gwallt tywyll a sbectol ymyl metel. Roedd hi’n gwisgo cap pêl-fas, trowsus du a chot wyrdd golau ddoe, ac yn cario ffon gerdded a bag llaw du.

Hefyd yn cymryd rhan yn y chwilio mae Gwylwyr y Glannau, Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru, Tîm Achub Mynydd y Gorllewin a gwirfoddolwyr lleol.

Mae’r heddlu’n gofyn i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â nhw ar 101, gan nodi cyfeirnod 281.