Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynllun i greu cerdyn llyfrgell i Gymru gyfan.

Yn ôl y llywodraeth, fe fydd y cerdyn hwn yn gwella gwasanaethau i’r cyhoedd ac yn sicrhau arbedion ariannol sylweddol i awdurdodau lleol.

Fe fydd pobl yn gallu cael benthyg llyfr o un llyfrgell unrhyw le yng Nghymru a’i ddychwelyd i unrhyw lyfrgell arall a defnyddio cyfrifiaduron llyfrgell, waeth ble maen nhw.  Bydd cyfle hefyd i greu gwasanaeth cenedlaethol hwylus ar gyfer lawrlwytho e-lyfrau ac e-gylchgronau.

I gychwyn rhoi’r cynllun ar waith, mae Llywodraeth Cymru dyfarnu contract fframwaith i SirsiDynix, un o ddarparwyr systemau rheoli llyfrgelloedd mwya’r byd.

Wrth i bob awdurdod lleol fabwysiadu’r un system yn hytrach na gweithredu rhai gwahanol fel ar hyn o bryd, dywed y llywodraeth y bydd hynny’n golygu hyd at 70% o arbedion i awdurdodau lleol.

‘Mwy cynaliadwy’

Meddai’r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:

“Mae’n hymrwymiad i helpu llyfrgelloedd i ddatblygu, gwella a moderneiddio yn parhau, er mwyn eu gwneud yn fwy cynaliadwy a’u helpu i ymdopi’n well â’r heriau sy’n wynebu gwasanaethau ledled Cymru y dyddiau hyn.

“Rwy’n falch ein bod gam yn nes at sefydlu cerdyn llyfrgell Cymru gyfan.  Yn ogystal â gwella’r gwasanaeth i ddefnyddwyr, byddai cerdyn o’r fath yn annog mwy o bobl i gofrestru a defnyddio’r gwasanaethau rhagorol sydd ar gael yn llyfrgelloedd y wlad.”

Fe fydd awdurdodau lleol yn mabwysiadu’r system newydd yn raddol.  Chwe awdurdod y gogledd fydd y cyntaf i wneud hynny, yn 2015-16.