Fe fydd teyrngedau’n cael eu rhoi i gyn-flaenasgellwr y Gweilch, Jerry Collins cyn eu gornest gartref gyntaf yn erbyn Munster ddydd Sul nesaf (Medi 13).

Bu farw Collins a’i wraig Alana mewn gwrthdrawiad yn Ffrainc ddechrau mis Medi, gan adael babi bach, Ayla.

Er ei bod hi’n gwella erbyn hyn, mae’n debygol y bydd angen triniaeth feddygol ar Ayla am weddill ei hoes.

Dyma fydd y tro cyntaf i’r Gweilch chwarae ers i Collins farw, ac mae cynlluniau ar y gweill i ddathlu ei fywyd a’i yrfa.

Bydd munud o dawelwch cyn yr ornest, ac fe fydd casgliad ariannol ar gyfer Cronfa Goffa Jerry Collins yn Stadiwm Liberty.

Mae’r Gweilch wedi estyn gwahoddiad i gyn-chwaraewyr y rhanbarth i fod yn bresennol ddydd Sul nesaf.